facebookPixel

Pryd hambwrdd pobi porc Nadoligaidd

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 40 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 4 cytled neu olwyth porc
  • 8-12 soch mewn sach

Ar gyfer y marinâd:

  • 2 satswma, sudd
  • 1 llwy fwrdd olew
  • 1 llwy de sinamon mâl
  • 1 llwy fwrdd mêl

Ar gyfer y llysiau:

  • 400g pannas, wedi eu plicio a’u haneru neu eu chwarteru
  • 350g tatws bach
  • 2 winwnsyn coch, wedi eu torri’n dalpiau
  • 250g sbrowts, wedi eu haneru os ydyn nhw’n fawr
  • 2 beren, wedi eu chwarteru
  • 2 satswma, wedi eu haneru
  • 2 lwy fwrdd olew
  • pupur a halen
  • 1 llwy de saets sych

Dull

Mae’r pryd un hambwrdd hwn yn ddelfrydol ar gyfer cinio neu swper adeg y Nadolig, pan rydych chi eisiau mwynhau bwyd braf fydd yn coginio ar ei ben ei hun tra eich bod chi’n ymlacio!



  1. Cynheswch y ffwrn i 200ºC / 180ºC ffan / Marc Nwy 6.
  2. Mewn powlen fach, cymysgwch gynhwysion y marinâd a’i arllwys dros y cytledi neu olwython porc, gan sicrhau bod y ddwy ochr yn cael eu gorchuddio. Gadewch i orffwys am o leiaf 20 munud, wrth i chi baratoi’r llysiau.
  3. Rhowch y tatws a’r pannas mewn sosban o ddŵr berw a’u coginio am 8 munud, cyn eu draenio.
  4. Mewn powlen fawr, cymysgwch yr olew, y pupur a halen a’r saets sych. Ychwanegwch yr holl ffrwythau a llysiau, gan gynnwys y tatws a’r pannas; cymysgwch y cyfan yn dda a’u trosglwyddo i dun rhostio.
  5. Gosodwch y porc a’r soch mewn sach ar ben y llysiau, ychwanegwch unrhyw farinâd sydd dros ben, a choginio’r cyfan am ryw 30 munud tan fod y cig wedi coginio.
  6. Ar ôl 30 munud tynnwch y porc allan a’i lapio’n ysgafn mewn ffoil i orffwys. Gwiriwch fod y llysiau wedi coginio a brownio – efallai y bydd angen eu rhoi’n ôl yn y ffwrn am 10 munud arall.
  7. Gweinwch mewn powlenni bas gyda bara ffres talpiog.
Share This