facebookPixel

Ysgwydd porc wedi’i rhostio’n araf gydag afalau, sinsir, triog a phupur jamaica

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 2 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 1.35kg darn o ysgwydd porc
  • 1 llwy de o bupur Jamaica
  • halen
  • 2 lwy fwrdd o driog du
  • 2.5cm o wreiddyn sinsir, wedi’I blicio a’i sleisio
  • 300ml o sudd afal cymylog
  • ½ lemwn, sudd
  • 1 llwy fwrdd o siwgr brown meddal
  • 1 llwy de sinamon
  • 2 afal bwyta, heb y canol, wedi’u torri’n chwarteri

Dull



  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180˚C / 160˚C ffan / Marc Nwy 4.
  2. Leiniwch dun rhostio mawr gyda haen ddwbl o ffoil.
  3. Torrwch y llinyn ar y darn o borc, a’i roi yn y tun rhostio yn fflat gyda’r croen ar i fyny.
  4. Torrwch linellau dwfn yn y porc gyda chyllell finiog, rhwbiwch y pupur Jamaica ynddynt ac ysgeintio cryn dipyn o halen drosto.
  5. Yna, cymysgwch y triog, sinsir, sudd afal, sudd lemwn, siwgr a sinamon a thywalltwch y gymysgedd i’r tun rhostio.
  6. Ychwanegwch yr afalau a rhowch ffoil llac o gwmpas y cig – cofiwch adael y croen yn y golwg.
  7. Coginiwch am tua 2-2½ awr neu nes bod y cig yn dyner a meddal – wrth i’r cig goginio a dechrau crebachu ailosodwch y ffoil o gwmpas y cig.
  8. Gweinwch gyda thatws stwnsh hufennog a chêl cyrliog wedi’i stemio.
Share This