facebookPixel

Bol porc wedi’i rostio’n araf gyda chrofen grimp

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 7 awr
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • ochr o borc bol
  • 1 winwnsyn mawr, yn ei hanner
  • 4 moronen fawr, wedi’u sleisio
  • 4 afal goginio, wedi’i chwarteri
  • 2 litr o seidr Cymreig
  • 300ml o ddŵr
  • 300ml o cola
  • sesnin

Dull



  1. Cynheswch y popty i 140ᵒC / 120ᵒC ffan / Marc Nwy 1.
  2. Cymerwch ochr gwastad y bol, sychwch y grofen a chrafwch y braster gyda chyllell miniog.
  3. Leiniwch hambwrdd rhostio bâs gyda ffoil. Ychwanegwch y winwnsyn, yr afalau a’r moron i weithredu fel trybedd, a rhowch sesnin arno.
  4. Gorffwyswch y porc gydag ochr y croen i fyny dros y cynhwysion. Arllwyswch y seidr, y dŵr a’r cola i mewn i’r hambwrdd rhostio.
  5. Gorchuddiwch y porc gyda phapur pobi, ac yna ffoil, gan ei blygu o gwmpas ochrau’r tun i’w selio. Gosodwch yn y popty a choginiwch am 6 awr.
  6. Tynnwch y porc o’r popty a thynwch y papur pobi a’r ffoil i ffwrdd yn ofalus.
  7. Trowch dymheredd y popty i fyny i 200ᵒC / 180ᵒC ffan / Farc Nwy 6. Taflwch y cynhwysion o gwmpas y bol porc yn y sudd a’r braster. Rhowch yn ôl yn y popty am awr arall i grimpo’r croen.
  8. Tynnwch o’r popty a’i adael i orffwys.
  9. Gweinwch gyda thatws stwnsh a saws afal Bramley trwchus.
Share This