facebookPixel

Porchetta

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 4 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

Gofynnwch i’ch cigydd dorri darnau hafal o fol a lwyn mochyn fel eu bod yn ffitio’n daclus un ar ben y llall.

  • bol mochyn buarth o Gymru 2.5kg, gyda’r esgyrn a’r croen wedi’u tynnu
  • 2.5kg o lwyn porc (creithiwch y croen gyda chyllell)
  • 25g o halen môr garw
  • 1 llwy fwrdd o bupur du fel sesnin i ddechrau

Ar gyfer y past:

  • 2 lwy de o halen môr
  • 8 ewin garlleg, wedi’u plicio a’u sleisio
  • 2 lwy fwrdd o hadau ffenigl wedi’u rhostio
  • 1 llwy fwrdd o groen lemwn wedi’i gratio
  • 1 llwy fwrdd o fflochau tsili
  • 1 llwy bwdin o siwgr
  • 10 coesyn teim ffres, wedi’u torri’n fras
  • 6 choesyn rhosmari ffres, wedi’u torri’n fras
  • 8 coesyn dail saets ffres, wedi’u torri’n fras
  • 6 llwy fwrdd o olew olewydd

Dull

Mae’r rysait hon yn gweini hyd at 12 o bobl.



  1. Rhowch y bol mochyn ar fwrdd a’i orchuddio â hanner yr halen a llawer o bupur du, a’u rhwbio’n dda i mewn i’r cig.
  2. Gadewch iddo fod am 10 munud.
  3. Torrwch 10 darn o linyn, oddeutu 30cm yr un.
  4. Gwnewch bast mewn breuan a phestl neu gymysgydd. Dechreuwch falu’r halen môr a’r garlleg gyda’i gilydd, yna ychwanegu’r gweddill yn araf. Tywalltwch yr olew olewydd i mewn i’w wneud yn bast trwchus braf.
  5. Gwasgarwch y gymysgedd dros y bol mochyn a rhoi lwyn wedi’i baratoi ar ei ben. Clymwch bob hyn a hyn gyda llinyn.

Dull mygu’n isel ac yn araf

  • Gosodwch waelod y mygwr gyda hanner y simne â glo wedi’i gynnau. Cyneuwch yr hanner arall a’i osod yn y canol. Dylai’r tymheredd fod rhwng 100-125C. Ychwanegwch 1 darn o bren wedi’i drochi ar gyfer pob 2kg o gig. Mygwch am 2.5 awr ar gyfer pob 2kg.
  • Os yn mygu darn mwy ar gyfer oddeutu 12 o bobl, paratowch Porchetta sy’n pwyso 5kg; defnyddiwch 4 darn o bren wedi’u trochi a’i goginio yn isel ac yn araf am 3 awr, cyn gorffen ar y barbeciw.

Dull barbeciw a mygu cyflym

Os nad oes gennych fygwr, yna bydd y dull hwn yn rhoi blas mwg hyfryd ond ysgafn. Gallwch goginio’r Porchetta yn gyfan gwbl ar y barbeciw ac ychwanegu ychydig o fwg gan ddefnyddio darnau pren afal neu geirios. Gallwch ddewis socian mewn dŵr am 24 awr, yna draenio a sychu’n dda gyda thywelion cegin. Paratowch fel yn y rysait a’i adael wedi’i orchuddio yn yr oergell am 24 awr arall. Tynnwch o’r oergell 45 munud cyn ei roi ar y barbeciw.

  • Trochwch 2 lond llaw o ddarnau pren am 15 munud.
  • Rhowch ar y barbeciw i’w goginio’n anuniongyrchol gydag un simne llawn o siarcol wedi’i gynnau. Os yw tymheredd y BBQ ychydig yn uchel i ddechrau, defnyddiwch y tyllau awyr yn y gwaelod a’r top i’w reoli, a’u cau am ychydig. Gallwch eu hagor yn llawn wedi i’r tymheredd ostwng.
  • Wedi i’r barbeciw gyrraedd 200°C rhowch y porc yn y canol ac ychwanegu llond llaw o bren wedi’i drochi i bob basged o lo.
  • Caewch y clawr a choginio am oddeutu 3 awr – gwiriwch dymheredd canol y porc, dylai fod 70-75°C.

I orffen

Rhowch y Porchetta ar farbeciw sydd wedi’i gynhesu ar wres anuniongyrchol, 200°C am 20 munud ar gyfer 2kg neu 1 awr ar gyfer 5kg. Dylai’r tymheredd terfynol mewnol fod yn 75°C. Gadewch iddo fod am 30 munud cyn cerfio.

Share This