facebookPixel

Bola mochyn wedi ei rostio’n araf gydag afal, mêl a sinamon

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 2 awr
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 700g darn coch o fola mochyn
  • 300ml sudd afal cymylog
  • halen a phupur
  • 1 llwy de sinamon mâl
  • 2 afal, heb y galon ac wedi eu chwarteri
  • 2 eirinen, heb y garreg ac wedi eu haneru
  • 2 sbrigyn mawr saets ffres
  • 1 llwy fwrdd mêl

Dull



  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180˚C / 160˚C ffan / Marc Nwy 4.
  2. Cymerwch y ddarn fflat o’r bola, sychwch y grofen a gwnewch riciau dwfn ynddo gyda chyllell finiog.
  3. Leiniwch dun rhostio bas gyda dau ddarn mawr o ffoil. Rhowch y sudd afal, yr halen a pupur a’r sbeisys ar y ffoil.
  4. Rhowch y bola ar y ffoil a lapiwch y ffoil o amgylch y darn cig fel bod yr hylif yn erbyn y darn bola, ond gadewch y top yn wych ac agored. Brwsiwch y grofen a’r olew ac ychydig o halen. Rhostiwch yn agored am tua 1 awr.
  5. Ychwanegwch yr afalau, eirin a’r saets, gorchuddiwch y darn cyfan a ffoil a rhowch yn ôl yn y ffwrn am awr arall.
  6. Pan fydd wedi coginio agorwch y ffoil yn ofalus, arllwyswch fêl dros y grofen a rhowch o dan gril wedi ei dwymo’n barod am tua 5 munud fel bod y grofen yn grensiog.
  7. Gweinwch mewn tafelli trwchus, y saws drostynt a bwytewch gyda’r ffrwyth.
Share This