facebookPixel

Ysgwydd porc wedi’i choginio’n araf mewn seidr, afalau a ffenigl

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 2 awr 30 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • darn 1.5kg o ysgwydd porc heb yr asgwrn ac wedi’i rholio
  • olew
  • halen
  • 1 afal coginio, wedi’i blicio, ei greiddio a’i chwarteru
  • 2 afal bwyta, wedi’u creiddio a’u chwarteru
  • 300ml o seidr
  • 1 bwlb ffenigl, wedi’i dorri’n ddarnau

Dull



  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180ºC / 160ºC ffan / Marc Nwy 4. Pwyswch y darn o gig er mwyn i chi weithio allan faint o amser sydd ei angen ar y cig yn y popty: 30 munud am bob 450g / ½ kg, + 30 munud (ar gyfer cymhedrol).
  2. Sychwch y croen a’i ricio’n ddwfn gyda chyllell finiog. Brwsiwch gydag olew ac ysgeintiwch â halen. Gosodwch y porc mewn tun rhostio wedi’i leinio â ffoil ac ychwanegwch yr afalau, seidr a ffenigl.
  3. Crensiwch y ffoil o gwmpas y cig ond gadewch y croen heb ei orchuddio i adael i’r grofen galedu.
  4. Rhowch y tun rhostio yn y popty am yr amser angenrheidiol.
  5. Tynnwch y darn o borc o’r popty a gadael iddo sefyll am 10- 15 munud cyn torri’r cig yn sleisiau trwchus.
  6. Gweinwch gyda thatws stwnsh hufennog, cêl cyrliog a diferwch y suddion coginio dros bob dim.

 

Share This