facebookPixel

Asennau breision gyda sglein stowt a masarn

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 2 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 1.8kg asennau breision porc
  • 4 llwy fwrdd sudd masarn
  • 1 llwy fwrdd siwgr brown golau
  • 500ml stowt tywyll

Dull



  1. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 190°C / 170°C ffan / Marc Nwy 5.
  2. Cymysgwch y sudd masarn, y siwgr a’r stowt. Rhowch dwy haen o ffoil mewn padell rhostio ddofn. Rhowch yr asennau yn y badell ac arllwyswch y gymysgedd stowt drostynt.
  3. Rhowch ddarn arall o ffoil drostynt a’u coginio yn y ffwrn sydd wedi’i chynhesu ymlaen llaw am tua 1½ awr nes bod y cig yn frau o amgylch yr asgwrn.
  4. Tynnwch y ffoil a choginiwch y cig heb orchudd am 20-30 munud arall i leihau a thewychu’r saws ychydig.
  5. Gweinwch yr asennau mewn pentwr gyda saws a salad hadau quinoa llysieuol.
Share This