facebookPixel

Asennau breision mango ac oren gyda thalpiau llysiau

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 2 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 1.8kg o asennau breision porc
  • 2 lwy fwrdd o siytni mango
  • 1 llwy de 5 sbeis Tsieineaidd
  • 450ml sudd mango ac oren
  • 1 mango ffres, wedi’i dorri’n dalpiau o gwmpas y garreg

Ar gyfer y talpiau llysiau:

  • 1 celeriac, wedi’i blicio a’i dorri’n sglodion mawr
  • 3 tysen felys, wedi’u plicio a’u torri’n sglodion mawr
  • 3 moronen, wedi’u plicio a’u torri yn sglodion mawr
  • 2 lwy fwrdd o olew llysiau

Dull



  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180˚C / 160˚C ffan / Marc Nwy 4.
  2. Leiniwch dun rhostio gyda haen ddwbl o ffoil a rhoi’r asennau ynddo.
  3. Yna, cymysgwch y siytni mango, y sbeisys, y sudd mango ac oren a’i dywallt dros yr asennau.
  4. Yna, rhowch ffoil yn llac o amgylch yr asennau, gorchuddiwch gydag ail ddarn o ffoil a choginio am tua 1½ awr, neu nes bod y cig yn dyner a meddal. Pan fydd y cig yn dyner a meddal tynnwch y ffoil a choginio am 30 munud arall.
  5. Tra bydd yr asennau’n coginio rhowch yr holl lysiau mewn tun rhostio ar wahân, mewn un haen, ac ysgeintio olew olewydd drostynt. Coginiwch nhw yn y popty am tua 45-60 munud neu nes byddant yn feddal ac euraidd.
  6. Pan fydd yr asennau’n barod tynnwch nhw o’r popty, a thywallt y sudd i sosban fechan a’i ferwi am 10 munud neu nes bydd wedi lleihau ychydig.
  7. Pentyrrwch yr asennau ar blât mawr i’w rannu gan rhoi’r saws ar eu pennau a’u gweini gyda’r talpiau llysiau.
Share This