facebookPixel

Porc Blasus Perffaith: Prydau Rhost y Pasg

Mawrth 28, 2024

Mae’r Pasg wedi cyrraedd unwaith eto, ac fel rhai sydd wrth ein boddau’n coginio, rydym yn edrych ymlaen at flasau hyfryd y tymor hwn.

Mae pryd rhost yn draddodiad y Pasg rydym yn ei drysori, ac mae’n amser gwych i ni gan bod tair achlysur dros y Pasg pan gellir mwynhau cinio rhost!

Rydym wedi llunio rhestr o’n hoff ddewisiadau o brydau rhost Porc Blasus ar gyfer y Pasg isod. Mae’r ryseitiau hyn yn sicr o wneud argraff ar eich gwesteion, ond cofiwch gadw lle ar gyfer eich wyau Pasg!

Bol porc wedi’i rostio’n araf gyda chrofen grimp: Er bod angen rhostio’r porc am amser hir yn y rysait hwn, gyda amser paratoi o 10 munud yn unig, mae’n hawdd iawn i’w wneud. Y cyfan sydd angen ei wneud yw rhoi’r cynhwysion ar eich hambwrdd a gadael i’r popty wneud y gwaith caled.

A succulent piece of super slow roasted pork belly with crispy crackling, served alongside vibrant green broccoli, tender carrots, creamy mashed potatoes, and a side of rich sauce.

Lwyn porc wedi rhostio gyda stwffin dwyreiniol: Os ydych chi’n chwilio am bryd rhost unigryw, dyma’r un i chi. Mae’r stwffin, sy’n cael ei wneud gyda sbeis Tsieineaidd, mêl, eirin a sibols, yn ychwanegu rhywbeth gwahanol a chyffrous i’ch pryd Pasg arferol.

A succulent roast loin of pork with oriental stuffing, sliced and beautifully arranged on a black plate, accompanied by chopsticks. In the background, a bowl of vibrant, fresh vegetables.

Ysgwydd porc wedi’i rhostio’n araf gydag afalau, sinsir, triog a phupur jamaica: Mae’r rysait hwn yn cyfuno blasau melys ac aromatig i greu pryd cofiadwy i’ch gwesteion. Gweiniwch gyda thatws stwch hufennog am bryd cyflawn.

A succulent slow-roasted pork shoulder with a rich glaze, accompanied by roasted apples and seasoned with ginger, treacle, and allspice, served in a blue pan on a wooden board over a floral tablecloth.

Am fwy o ysbrydoliaeth ryseitiau dros y pasg, ewch i’n tudalen ryseitiau.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This