facebookPixel

Cinio Rhost Porc Blasus Sul y Mamau

Mawrth 8, 2024

Mae Sul y Mamau yn ddiwrnod arbennig i ddathlu’r menywod anhygoel yn ein bywyd, a pha ffordd well o ddangos ein gwerthfawrogiad na’ gyda phryd rhost Porc Blasus?

Pa mor bell yw’n porc o’ch fforc?

Ond wrth gwrs, yn gyntaf mae’n rhaid dod o hyd i’ch cyflenwr Porc Blasus lleol! I ddod o hyd i’ch cyflenwr agosaf, cliciwch yma i ddefnyddio ein map rhyngweithiol. Trwy ddewis Porc Blasus, nid yn unig ydych chi’n sbwylio eich mam gyda phryd arbennig, ond rydych hefyd yn cefnogi ffermwyr a busnesau lleol sy’n cynhyrchu ein porc. Mae Porc Blasus yn dod o ffermydd ar raddfa fechan, ble mae moch yn cael eu magu dan amodau naturiol a chael eu bwydo diet cytbwys – felly gallwch fod yn hyderus eich bod yn gwneud y peth iawn!

Mae pryd rhost ar Sul y Mamau yn draddodiad rydyn ni’n ei garu, felly rydyn ni wedi dewis tri rysáit y gallech chi eu dilyn i sicrhau ei fod yn ddiwrnod i’w gofio. Mae’r ryseitiau’n siŵr o blesio eich mam, ond cofiwch arbed rhywfaint o le ar gyfer pwdin!

Lwyn porc rhost gydag afalau bach pob wedi’u stwffio: Mae’r llwyn porc yn cael ei ysgeintio gyda halen môr a saets a’i rostio gyda moron a winwns yn y rysáit hwn, tra bod yr afalau pob wedi’u stwffio‘n ychwanegu ychydig o felyster a choethder i’r pryd. Mae’r rysáit yn hawdd i’w baratoi a bydd yn llenwi’ch cegin gydag arogl hyfryd!

A sliced roast pork loin on a wooden cutting board, with a carving fork and knife, next to a baking tray of baked apples and a bowl of hasselback potatoes on a rustic table.

Porchetta: Mae’r porc yn cael ei rholio a’i glymu, yna’i greithio a’i rwbio â halen pupur a naddion croen lemon ar gyfer y rysáit hwn. Mae’r porchetta’n cael ei rostio ar wely o foron gyda gwin gwyn a dŵr i greu grefi cyfoethog. Y canlyniad yw rhost porc blasus gyda chroen crisb. Bydd eich mam yn caru’r pryd Eidalaidd ei naws, ac yn mwynhau pob brathiad!

A person is slicing a cooked piece of Porchetta on a wooden cutting board with vegetables.

Bola mochyn wedi ei rostio’n araf gydag afal, mêl a sinamon: Yn y rysáit hwn, mae chwarteri afal, haneri eirin, saets ffres a mêl yn cael ei ychwanegu ar ben y bol porc i greu saws ffrwythus a persawrus. Mae’r bol porc yn cael ei goginio’n araf yn y ffwrn am ddwy awr a hanner, nes bod y cig yn dyner a’r croen yn grisb.

A succulent grilled pork chop accompanied by roasted apples and colorful bell peppers, garnished with fresh green herbs, served on a dark plate.

Rydym yn sicr y byddech yn mwynhau diwrnod hyfryd gyda’r teulu gyda unrhyw un o’r prydau hyn! Beth bynnag a wnewch gyda eich diwrnod, rydyn ni yn Porc Blasus yn dymuno Sul y Mamau gwych i chi!

Am fwy o ysbrydoliaeth, cliciwch yma i weld ein holl ryseitiau.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This