facebookPixel

Croesawch yr hydref gyda ein 10 rysáit orau i’ch cynhesu

Hydref 23, 2020

Wrth i ni droi’r clociau’n ôl ddydd Sul a dechrau ar gyfnod clo arall, does dim eisiau llawer o berswâd i swatio gartref a chroesawu’r hydref go iawn. A pha well ffordd i oroesi’r dyddiau hir a thywyll na thrwy lenwi ein boliau gyda’n hoff fwydydd.

Diolch byth bod porc yn gig sydd heb lawer o fraster (heblaw am y bol brasterog blasus), felly does dim hyd yn oed raid i chi deimlo’n euog wrth i chi fwynhau a pharatoi i guddio dros y gaeaf!

O ginio dydd Sul traddodiadol, wedi ei goginio’n araf gyda chrofen grimp; golwyth blasus; neu bryd cysurlon mewn un ddysgl – does dim sy’n well na defnyddio blasau a chynhwysion tymhorol i’ch cynhesu chi a’ch paratoi ar gyfer y gaeaf.

 

 

Felly, dyma restr o’n 10 hoff rysáit hydrefol ni i wneud i chi deimlo’n gyfforddus a chysurlon:

  1. Ramen ysgwydd porc
  2. Bola mochyn wedi ei rostio’n araf gydag afal, mêl a sinamon
  3. Ysgwydd porc wedi’i rhostio’n araf gydag afalau, sinsir, triog a phupur Jamaica
  4. Golwython porc trwchus gyda chaws pob a sglodion tenau
  5. Stêcs porc gyda saws pupur a madarch hufennog
  6. Pot porc paprica
  7. Caserol porc, chorizo, ffa gwynion a bara crensiog
  8. Tagine porc gyda bricyll, syltanas ac oren
  9. Asennau breision gyda sglein stowt a masarn
  10. Cebabau porc sbeislyd roced gyda relish ffrwythau’r hydref

Llwglyd? Edrychwch ar ein casgliad llawn o ryseitiau’r hydref drwy ddefnyddio’r hidlwr tymhorol ‘hydref/gaeaf’ ar ein tudalen ryseitiau.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This