Wrth i ni droi’r clociau’n ôl ddydd Sul a dechrau ar gyfnod clo arall, does dim eisiau llawer o berswâd i swatio gartref a chroesawu’r hydref go iawn. A pha well ffordd i oroesi’r dyddiau hir a thywyll na thrwy lenwi ein boliau gyda’n hoff fwydydd.
Diolch byth bod porc yn gig sydd heb lawer o fraster (heblaw am y bol brasterog blasus), felly does dim hyd yn oed raid i chi deimlo’n euog wrth i chi fwynhau a pharatoi i guddio dros y gaeaf!
O ginio dydd Sul traddodiadol, wedi ei goginio’n araf gyda chrofen grimp; golwyth blasus; neu bryd cysurlon mewn un ddysgl – does dim sy’n well na defnyddio blasau a chynhwysion tymhorol i’ch cynhesu chi a’ch paratoi ar gyfer y gaeaf.
Felly, dyma restr o’n 10 hoff rysáit hydrefol ni i wneud i chi deimlo’n gyfforddus a chysurlon:
- Ramen ysgwydd porc
- Bola mochyn wedi ei rostio’n araf gydag afal, mêl a sinamon
- Ysgwydd porc wedi’i rhostio’n araf gydag afalau, sinsir, triog a phupur Jamaica
- Golwython porc trwchus gyda chaws pob a sglodion tenau
- Stêcs porc gyda saws pupur a madarch hufennog
- Pot porc paprica
- Caserol porc, chorizo, ffa gwynion a bara crensiog
- Tagine porc gyda bricyll, syltanas ac oren
- Asennau breision gyda sglein stowt a masarn
- Cebabau porc sbeislyd roced gyda relish ffrwythau’r hydref
Llwglyd? Edrychwch ar ein casgliad llawn o ryseitiau’r hydref drwy ddefnyddio’r hidlwr tymhorol ‘hydref/gaeaf’ ar ein tudalen ryseitiau.