facebookPixel

6 rysáit barbeciw gwych sy’n berffaith ar gyfer dyddiau hirfelyn tesog

Gorffennaf 19, 2021

Wel, mae’n edrych fel bod yr haf yma o’r diwedd! Gyda gwyliau’r ysgol yn dechrau a rhagolygon y tywydd yn edrych yn braf iawn a thymheredd dymunol am yr wythnosau nesaf o leiaf, gadewch inni wneud y gorau ohono tra gallwn ni.

Er mwyn eich helpu chi i wneud hynny, rydyn ni wedi dewis chwe rysáit porc wych sy’n berffaith ar gyfer barbeciw yn yr awyr agored. Mae’r danteithion hyn yn amrywio o fyrgyrs a selsig traddodiadol, i rywbeth arbennig iawn i’r rhai sydd wir eisiau gwneud ymdrech.

Hwrê, mae’n haf!

 

Cebabau porc sbeislyd roced gyda relish ffrwythau’r hydref

Lefel: hawdd iawn

Mae talpiau o borc wedi’u gorchuddio â Harissa wedi’u sgiweru â phupur a courgette yn ffordd wych o sicrhau bod eich bwyd barbeciw yn lliwgar braf a bod gweadau gwahanol ar gael. Mae’r cebabs shish hyn yn anhygoel gyda thatws pob fflwfflyd, crensiog, y gallwch chi hefyd eu coginio ar y barbeciw. Syml ond effeithiol.

Bulgogi porc gan Llio Angharad

Lefel: hawdd

Mae bulgogi yn golygu ‘cig tân’, yn llythyrennol, ac mae’n bryd barbeciw Coreaidd melys a sawrus lle mae tafelli tenau o borc wedi’i farinadu yn cael eu grilio ar farbeciw. Yn y rysáit hon gan y blogiwr bwyd Llio Angharad, mae hi’n gweini’r bulgogi gyda reis fflwfflyd ond os ydych chi eisiau aros allan yn yr awyr agored byddai salad Asiaidd wedi’i wneud ymlaen llaw yn gweddu’n berffaith.

Golwython porc swmpus gyda saets, garlleg a lemwn

Lefel: hawdd

Gwnewch rywbeth gwahanol i fwyd barbeciw traddodiadol trwy goginio’r golwython porc blasus yma – mae blasau ysgafn lemwn a saets yn cadw’r pryd yn ysgafn braf ac yn llawn ffresni’r haf. Beth am ei weini gyna llysiau tymhorol ifanc fel pys melys, india-corn neu ffenigl ar gyfer pryd ochr oer ac iach?

Koftas porc sbeislyd gyda couscous gemog

Lefel: hawdd

Allwn ni ddim meddwl am unrhyw beth mwy hafaidd na’r koftas briwgig porc â blas ras el hanout hyfryd hyn sydd wedi’u haddurno’n hardd â datys a chnau pistachio. Mae’r hadau pomgranad ffres, mintys a phersli yn y couscous yn rhoi blas arbennig iddyn nhw – pryd ochr gwych i unrhyw farbeciw.

Byrgyr porc sbeislyd gyda nachos â chaws

Lefel: angen ychydig o ymdrech

Byrgyr – clasur. Caws – clasur. Nachos – clasur. Cyfuno’r tri? Athrylith! Mae cymysgu garlleg, tsili, pupur coch a harissa i mewn i’r briwgig porc i ffurfio’r patis byrger yn ychwanegu cic go iawn i’r rhai sy’n hoffi bwyd sbeislyd. Cyferbynnwch hynny gyda salsa guacamole cŵl a nachos crensiog, cawslyd ac mae hwn yn fyrgyr a hanner.

Porchetta

Lefel: angen mwy o ymdrech

Mae’r rhost bol porc suddlon hwn yn llawn dop o flas ac mae mor frau a llawn sudd. Efallai bod hwn yn fwy o ymdrech i’w wneud ac mae angen rhywfaint o baratoi ymlaen llaw, ond credwch ni, byddwch chi’n ddiolchgar pan fyddwch chi’n ei flasu…

 

Am hyd yn oed mwy o ysbrydoliaeth am ryseitiau hafaidd, ewch i’r dudalen ryseitiau.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This