facebookPixel

Prydau San Ffolant i ddau a fydd yn gwneud i chi wenu

Chwefror 12, 2021

Beth bynnag yw eich barn am Ddydd Sant Ffolant, mae’r ŵyl ar ei ffordd ddydd Sul yma a gan fod bywyd yn anodd ar hyn o bryd, mae angen esgus arnom ni i sbwylio’n hunain ychydig yn fwy nag arfer.

Does dim ffordd well o godi’r ysbryd na gyda bwyd da, ac os ydych chi’n ddigon ffodus i fod yn byw gyda rhywun y gallwch ei rannu gydag ef neu hi, gorau oll.

Felly, hyd yn oed os nad yw’r ŵyl eich math chi o beth fel arfer, wnawn ni ddim eich beirniadu chi am wneud rhywfaint o ymdrech ychwanegol eleni os ydych chi’n teimlo y gallai eich pen – cymaint â’ch calon – elwa o rywbeth bach hyfryd a blasus.

Dyma ddetholiad o brydau blasus i ddau wedi’u cyflwyno’n hyfryd a fyddai’n gwneud danteithion da i unrhyw un – person rhamantus ai peidio – ddydd Sul!

Cawl Thai gyda phorc 

Cawl chwilboeth sy’n cael ei wneud â phast cyri gwyrdd Thai a llaeth cnau coco, sy’n golygu bod hwn yn bryd i dwymo dwy galon, neu os caiff ei rannu’n bedwar gellir ei weini fel dechreufwyd os ydych chi wir yn mynd i drafferth ac yn mynd am bryd tri chwrs.

Porc char siu gyda salad hispi a purée seleriac 

Crëwyd i ni’n ddiweddar gan y chef o Gaerdydd, Simmie Vedi. Mae’r marinâd hyfryd, llachar char siu hwn sy’n llawn blasau Tsieineaidd a chlec o umami yn golygu bod hon yn ffordd wych o weini porc.

Bulgogi porc 

Mae bulgogi yn golygu ‘cig tân’ yn llythyrennol, mae’n bryd barbeciw Coreaidd melys a sawrus lle mae darnau tenau o borc wedi’u marinadu yn cael eu grilio ar farbeciw – ond yn y rysáit hon gan y blogiwr bwyd Llio Angharad mae hi’n ffrio’r porc ar yr hob.

Porc tro-ffrio gyda basil sanctaidd 

Mae rysáit y blogiwr Hangry Bear yn seiliedig ar y clasur bwyd stryd Thai pad krapow moo; mae’r blasau sawrus sbeislyd yn y pryd hwn yn gwneud bwyd cysur gwych a’r ffordd orau o’i weini yw gydag wy crimp, rhedegog wedi’i ffrio ar y top.

Brownis bacwn a masarn 

Ddim yn meddwl y gallech chi ddefnyddio Porc Blasus ar gyfer pryd tri chwrs? Meddyliwch eto! Efallai bod y cig moch yn y brownis yma’n swnio braidd yn rhyfedd, ond rydym ni’n addo eu bod nhw’n blasu’n hollol hyfryd, a gallen nhw fod yn ‘gynhwysyn cudd’ hwyl ar gyfer gêm ddyfalu ar ddiwedd y pryd…

 

Peidiwch ag anghofio y gallwch chi hefyd fynd draw i adran ryseitiau ein gwefan am ragor o syniadau am ryseitiau hynod flasus i fwy na dau berson.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This