facebookPixel

Brownis bacwn a masarn

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 40 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 100g o facwn brith, tafelli tenau, wedi’u torri’n fân
  • 2 llwy fwrdd o sudd masarn
  • 150g o fenyn di-halen meddal
  • 200g o siwgr meddal brown
  • 50g o siwgr mân euraidd
  • 75g o bowdr coco
  • 150g o flawd plaen
  • 1 llwy de o soda pobi
  • 4 ŵy mawr, wedi’u curo
  • 150g o sglodion siocled tywyll wedi’u torri

Dull

Mae’r rysait hon yn gwneud tua 12 o frownis.



  1. Leiniwch ac irwch hambwrdd bobi sgwâr 10”. Cynheswch y popty i 190°C / 170ºC ffan / Marc Nwy 5.
  2. Cynheswch badell ffrio a phan yn gynnes, ychwanegwch y bacwn brith a choginiwch, gan droi nes bod y bacwn yn dechrau crimpio.
  3. Ychwanegwch y sudd masarn, gan droi’r cymysgedd eto i’w gyfuno. Rhowch y gymysgedd bacwn mewn powlen a’i adael.
  4. Dros wres isel, toddwch y menyn mewn sosban. Unwaith iddo doddi, ychwanegwch y siwgwr a’i droi gyda llwy bren.
  5. Tynnwch y sosban o’r gwres ac ychwanegwch y powdr coco, blawd, y soda pobi a chymysgwch.
  6. Ychwanegwch yr wyau wedi’u curo a chymysgwch eto.
  7. Ychwanegwch y siocled tywyll a’r gymysgedd bacwn. Plygwch y cymysgedd nes ei fod wedi cyfuno’n dda, ac yna rhowch yn yr hambwrdd bobi.
  8. Coginiwch yng nghanol y popty am 25 munud. Unwaith mae wedi’i goginio, tynnwch y tun o’r popty a’i osod ar rac i oeri.
  9. Torrwch y brownis yn sgwariau a’u gweini gyda hufen ia.
Share This