facebookPixel

Bochau mochyn wedi’u brwysio mewn seidr gyda thatws stwnsh wedi’u pobi gan Tom Simmons

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 2 awr
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 8 boch mochyn (neu gallwch ddefnyddio ysgwydd porc wedi deisio)
  • 1 winwnsyn, wedi’i sleisio
  • 1 foronen, wedi’i sleisio’n denau
  • 3 ewin garlleg, wedi’u malu
  • 1 ffon seleri, wedi’i sleisio
  • 1 llwy fwrdd mwstard Dijon
  • 500ml seidr
  • 3 coeden anis gyfan
  • 1l stoc cyw iâr
  • 6 sprigyn o deim
  • llond llaw o gennin syfi, wedi’u torri’n fân
  • 4 llwy fwrdd olew hadau rêp
  • pupur a halen i sesno

Ar gyfer y tatws stwnsh:

  • 4 taten Maris Piper ganolig, wedi’u plicio
  • 200g menyn
  • 150ml llaeth
  • 150ml hufen

Dull

Mae’r cogydd o Sir Benfro, Tom Simmons, wedi ymuno â ni i ddangos pam y dylem ddewis porc lleol. Mae Tom, sydd wedi bod wrth y llyw yn Tom Simmons Tower Bridge yn Llundain ers 2017, wedi dychwelyd i Gymru yn ddiweddar ac wedi agor Thomas by Tom Simmons ym Mhontcanna, Caerdydd lle gwelir dylanwad coginio Prydeinig a Ffrengig a’r ysbrydoliaeth yn dod gan wreiddiau Cymreig Tom. Dyma bryd i gynhesu’r galon os ydych chi’n chwilio am rywbeth ychydig yn wahanol – ond cofiadwy iawn – i’w weini yn ystod y Nadolig.



  1. Dechreuwch drwy sesno’r bochau mochyn yn hael gyda halen. Rhowch bedair llwy fwrdd o olew hadau rêp mewn sosban a’i roi dros wres uchel. Sychwch y bochau mochyn trwy eu taro’n ysgafn â phapur cegin; gosodwch nhw yn y sosban a brownio’r ddwy ochr.
  2. Tynnwch y bochau mochyn allan o’r badell a gostwng y gwres i ganolig, yna ychwanegwch y winwnsyn a’r moron a’u coginio nes eu bod yn frown euraid.
  3. Ychwanegwch y garlleg, y seleri a’r mwstard a’u coginio am funud arall.
  4. Ychwanegwch y seidr, a thewychu’r hylif o hanner.
  5. Ychwanegwch yr holl gynhwysion sy’n weddill, ynghyd â’r bochau mochyn wedi’u brownio, a choginio dros wres isel am tua dwy awr. Os yn defnyddio ysgwydd porc, coginiwch am tua dwy awr 45 munud.
  6. Ar ôl i’r bochau mochyn fod yn coginio am tua 45 munud, cynheswch eich ffwrn i 190ºC / 170ºC ffan / Marc Nwy 5. Os yn defnyddio ysgwydd porc, cynheswch eich ffwrn ar ôl tua 1½ awr.
  7. Rhowch dyllau bach yn y tatws a’u rhoi ar hambwrdd o halen yn y ffwrn. Dylen nhw gymryd tua awr i goginio felly byddan nhw’n barod yr un pryd â’r porc.
  8. Unwaith y bydd y bochau mochyn yn frau, straeniwch yr hylif drwy ogr a’i dewychu drwy ei ferwi mewn sosban nes ei fod yn sglein trwchus. Ychwanegwch y bochau mochyn yn ôl i mewn i’r sglein. Tynnwch oddi ar y gwres a’u hysgeintio â chennin syfi mân.
  9. Unwaith y bydd y tatws wedi’u coginio, torrwch nhw’n eu hanner a sgwpio’r canol allan. Rhowch y tatws trwy reisiwr (neu defnyddiwch stwnsiwr) ac i mewn i sosban. Ychwanegwch y menyn fesul tipyn wrth ei droi dros wres isel.
  10. Yn y cyfamser, ychwanegwch y llaeth a’r hufen i sosban ar wahân a’i ferwi. Unwaith y bydd yn berwi, ychwanegwch y gymysgedd hufen at y tatws fesul chwarter, gan ei droi’n egnïol i greu stwnsh llyfn sidanaidd. Gallwch ychwanegu mwy o hufen os hoffech chi. Gorffennwch drwy ei sesno â halen.
Share This