facebookPixel

‘Nôl i’r ysgol: cynllun bwyd ar gyfer wythnos gynta’r tymor

Medi 1, 2021

Mae gwyliau’r haf yn dirwyn i ben, mae esgidiau ysgol newydd wedi’u prynu, casys pensil wedi’u hail-lenwi a gwisgoedd wedi’u smwddio. Dim ond un peth y gall hyn ei olygu: ‘nôl i’r ysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.

Mae’r wythnos gyntaf ‘nôl bob amser yn sioc i’r system – i rieni a phlant! – wrth i ni drio arfer â’r drefn o fynd i’r ysgol bob dydd unwaith eto.

Felly dyma gynnig help llaw i famau a thadau trwy ddewis ein prydau bwyd gorau i deuluoedd sy’n sicr o wneud yr wythnos gyntaf ‘na ychydig yn haws.

Mae’r prydau blasus hyn yn wych i bobl ifanc ffyslyd a llwglyd, ac maen nhw naill ai’n gyflym iawn i’w gwneud, neu os ydyn nhw’n cymryd ychydig mwy o amser i goginio maen nhw o leiaf yn hawdd iawn i’w paratoi.

Mae popeth yn mynd i fod yn iawn, bobl!

 

Dydd Llun: caserol

Caserol porc blasus

Lefel: hynod hawdd
Amser paratoi: 15 munud / Amser coginio: 2 awr
Hawdd dyblu a mwynhau am yr eildro yn ddiweddarach yn yr wythnos? Yn bendant
Hawdd dyblu a rhewi ar gyfer rhywbryd eto? Yn bendant

Mantais fawr y pryd hwn yw mai dim ond un potyn sydd ei angen; taflwch bopeth i mewn ac yna ei adael yn y popty i goginio wrth i chi fwrw ymlaen â phethau eraill. Beth allai fod yn symlach? Gallwch gwtogi ar yr amser coginio trwy wneud dwbl a bwyta’r gweddill fel sbarion wedi eu haildwymo yn y microdon yn ddiweddarach yn yr wythnos.

Dydd Mawrth: pasta

Peli cig porc sbeislyd gyda saws arrabiata a phasta orzo

Lefel: hawdd
Amser paratoi: 15 munud / Amser coginio: 50 munud
Hawdd dyblu a mwynhau am yr eildro yn ddiweddarach yn yr wythnos? Yn bendant
Hawdd dyblu a rhewi ar gyfer rhywbryd eto? Yn bendant (peli cig yn unig)

Pwy sydd ddim yn dwlu ar lond powlen o basta blasus? Defnyddiwch y rysáit hon i roi hwb i’ch pryd pasta pob arferol trwy ddefnyddio pasta orzo yn lle fusilli neu penne. Mae gwneud y saws o’r dechrau yn golygu eich bod chi’n gwybod nad yw’n cynnwys unrhyw rwtsh cudd ac mae’n llawer haws nag y byddech chi’n ei feddwl. Unwaith eto, mae hon yn berffaith ar gyfer sbarion yn ddiweddarach yn yr wythnos a bydd y saws hyd yn oed yn fwy blasus wrth ei fwyta’r eildro.

Dydd Mercher: selsig

Cynffonau moch

Lefel: hawdd
Amser paratoi: 10 munud / Amser coginio: 25 munud
Hawdd dyblu a mwynhau am yr eildro yn ddiweddarach yn yr wythnos? Na
Hawdd dyblu a rhewi ar gyfer rhywbryd eto? Na

Mae’r selsig hwyliog hyn mewn briwsion bara yn syml iawn i’w gwneud ac yn sicr o wneud i bawb wenu amser swper, a’ch helpu i ddod trwy’r cwymp canol wythnos ‘na.

Dydd Iau: Bwyd Tsieineaidd

Porc wedi’i dro ffrio mewn dull dwyreiniol

Lefel: hynod hawdd
Amser paratoi: 20 munud / Amser coginio: 10 munud
Hawdd dyblu a mwynhau am yr eildro yn ddiweddarach yn yr wythnos? Yn bendant
Hawdd dyblu a rhewi ar gyfer rhywbryd eto? Na

Mae’r pryd tro-ffrio lliwgar hwn yn ffordd wych o gynnwys llwyth o lysiau iach amser swper, ac os oes unrhyw rai nad yw’ch plentyn yn hoffi, gallwch chi eu ffeirio am rywbeth arall. Mae defnyddio reis yn lle nwdls wy trwm yn helpu i gadw’r pryd tro-ffrio hwn yn ysgafn ac yn ffres hefyd.

Dydd Gwener: reis

Risotto porc, madarch ac asbaragws

Lefel: hynod hawdd
Amser paratoi: 10 munud / Amser coginio: 35 munud
Hawdd dyblu a mwynhau am yr eildro yn ddiweddarach yn yr wythnos? Na
Hawdd dyblu a rhewi ar gyfer rhywbryd eto? Na

Mae Risotto weithiau’n cael ei ystyried yn bryd anodd i’w wneud, ond mae’r rysáit hon yn syml iawn. Y canlyniad? Pryd reis moethus, hufennog iawn sy’n berffaith ar gyfer dydd Gwener. Dyma fwyd cysur ar ei orau, mae’n teimlo fel cwtsh ar blât.

Dydd Sadwrn: noson stêc

Stêcs porc gyda saws pupur a madarch hufennog

Lefel: hynod hawdd
Amser paratoi: 10 munud / Amser coginio: 10 munud
Hawdd dyblu a mwynhau am yr eildro yn ddiweddarach yn yr wythnos? Na
Hawdd dyblu a rhewi ar gyfer rhywbryd eto? Na

Mae’r penwythnos wedi cyrraedd o’r diwedd! Tretiwch eich hun i stêc glasurol – rydych chi’n ei haeddu! Dim ond deg munud mae’n ei gymryd i’w pharatoi a deg arall i’w choginio, allai’r cinio wyth cynhwysyn ‘ma ddim bod yn llawer haws, ond y canlyniad yw trît nos Sadwrn go iawn i’r teulu cyfan.

Dydd Sul: sbarion yn achub y dydd!

Da iawn chi, rydych chi wedi goroesi! Nawr yw’r amser i ymlacio a manteisio ar y sbarion o’r wythnos aeth heibio – caserol porc, pasta peli cig neu bryd tro-ffrio, chi bia’r dewis. Efallai y gallai’r plant hyd yn oed fod yn gyfrifol am y ‘coginio’ (neu’r aildwymo!) heno wrth i chi roi eich traed i fyny…?

 

Am hyd yn oed mwy o ysbrydoliaeth am ryseitiau, ewch i’r dudalen ryseitiau.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This