facebookPixel

5 rysáit i’ch helpu chi wneud y gorau o wyliau banc mis Mai

Ebrill 28, 2021

Mis Mai: mis y gwyliau banc! Gwnewch y gorau o’ch rhai chi gyda’r pum rysáit yma sy’n siŵr o wneud i hwyl yr haf gyrraedd yn gynnar.

Gyda’r tywydd yn gwella, gallwn ni fwynhau bwyta y tu allan er mwyn ein rhoi ni yn hwyliau’r haf.

Mae llawer ohonom ni’n cael mwynhau penwythnosau hir ar ddechrau a diwedd y mis, felly mis Mai yw’r amser perffaith i ymlacio, mynd i ysbryd yr haf a dod i ailadnabod eich gardd neu’ch balconi os ydych chi’n ddigon ffodus i gael un.

Os nad oes gennych chi le tu allan, agorwch y ffenestri ‘na i gael chwa go iawn o awyr iach – ynghyd ag ychydig o ddychymyg a lliain dros eich bwrdd neu’ch llawr i gael teimlad o bicnic ffres yn y parc.

Pasteiod porc bach gyda saets, afalau a seidr

Mae’r porc peis bach twt yma’n berffaith ar gyfer picnic sy’n llawn hwyl yr haf.

Medalau porc gyda saws rym cnau coco a chreision gwraidd lotws gan The Rare Welsh Bit

Dychmygwch eich bod ar draeth trofannol a mwynhewch y blasau Caribîaidd hyfryd.

Tagine porc gyda bricyll, syltanas ac oren

Mae cyfoeth y tagine Morocaidd yma’n siŵr o’ch twymo, hyd yn oed os yw’r tywydd fymryn yn oer!

Salad porc, ffa du ac oren

Oherwydd mae’n rhaid cael ychydig o salad er mwyn esgus bod yr haf wedi cyrraedd.

Koftas porc sbeislyd gyda couscous gemog

Ac os ydych chi’n ddigon dewr i ddefnyddio’r barbeciw, taflwch y cebabs yma arno a mwynhewch!

 

Am fwy o syniadau am ryseitiau, ewch draw i’r dudalen ryseitiau.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This