facebookPixel

Wythnos Porc o Gymru 2020: cariad at borc

Ionawr 16, 2020

I ddathlu diwrnod santes y cariadon yng Nghymru, ar ddydd Sadwrn 25 Ionawr, mae Hybu Cig Cymru a Menter Moch Cymru yn cynnig y cyfle i gyplau ledled Cymru fwynhau Dydd Santes Dwynwen gyda’i gilydd gyda phryd bwyd tri chwrs yn rhad ac am ddim sy’n cyflwyno’r cynnyrch gorau posibl.

Bydd y digwyddiad hwn am un noson yn unig yn cael ei gynnal yn Pitch, Caerdydd, bwyty sy’n ymfalchïo mewn bwyd Cymreig, a bydd pob cwrs ar y fwydlen yn cynnwys porc – hyd yn oed y pwdin!

Mae’n cael ei gynnal dan frand Porc Blasus ac yn cyd-fynd â’r ail Wythnos Porc o Gymru flynyddol, a gynhelir o 20 – 26 Ionawr 2020, gan anelu at godi proffil porc yng Nghymru; drwy arddangos ei ansawdd da a hyrwyddo cyflenwyr porc lleol.

“Mae rhai prynwyr nad ydynt yn ymwybodol o’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan ffermwyr Cymru i sicrhau bod Cymru yn cynhyrchu’r porc mwyaf blasus o’r ansawdd gorau sydd ar gael” medd Kirstie Jones,Swyddog Datblygu’r Farchnad yn Hybu Cig Cymru.

“Mae’r hyn rydym yn ei wneud yma yng Nghymru yn arbennig– ac mae hynny’n cael ei amlygu yn ansawdd y cig; mae ein moch yn cael eu magu mewn cenfeiniau llai o faint, am gyfnod hirach, ac mae hyn yn cyfoethogi’r blas.”

Mae’r hinsawdd a’r dirwedd yng Nghymru yn darparu’r lleoliad delfrydol a naturiol i gynhyrchu porc o ansawdd da ac mae Porc Blasus, sy’n gweithio’n barhaus i gefnogi’r diwydiant yn gweld hyn fel y cyfle delfrydol i arddangos y cyfoeth o opsiynau sydd ar gael i brynwyr.

Ychwanega Kirstie:

“Gellir defnyddio porc mewn llawer o ffyrdd gwahanol hefyd, felly rydym wedi bod yn awyddus i sicrhau ei fod yn cael ei gynnig ym mhob cwrs yn ein digwyddiad sy’n ymwneud â dathlu’r cig mwyaf blasus, o’r ansawdd gorau sydd ar gael.

“Byddwn yn dechrau gyda’r cwrs cyntaf sef pâté porc, pistasio a mango, bol porc wedi’i rostio’n araf gyda chrofen grimp – ac yna i orffen y noson, brownis bacwn a masarn.”

Dywed Melanie Cargill, Menter Moch Cymru–menter a ariennir gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi a datblygu’r diwydiant moch yng Nghymru:

“Mae galw mawr am borc yng Nghymru, felly mae dathlu’r gwaith unigryw mae ffermwyr a chyflenwyr Cymru yn ei wneud ar garreg ein drws yn ystod digwyddiadau fel yr Wythnos Porc o Gymru, yn allweddol i godi ymwybyddiaeth.

“Rydym yn ymdrechu i wneud porc o Gymru yn ddewis amlwg gan fod Cymru yn cynhyrchu’r porc mwyaf blasus o’r ansawdd gorau sydd ar gael – ac mae’r fwydlen sy’n cael ei chynnig i ymwelwyr â bwyty ‘pop-up’ Porc Blasus yn Pitch Caerdydd yn arddangos y dulliau arloesol sydd ar waith i sicrhau y gellir mwynhau’r cig mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol.”

Mae’r prosiect Menter Moch Cymru yn cael ei ariannu gan Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru -, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Fel rhan o’r Wythnos Porc o Gymru eleni, roedd rhai o’r ymwelwyr â’r bwyty hefyd yn cael y cyfle i ymweld â fferm ymlaen llaw, er mwyn cael profiad uniongyrchol o’r broses ffermio a thechnegau sy’n gwneud porc o Gymru yn gynnyrch’o’r fferm i’r fforc’ cynaliadwy.

Dywed Kirstie:

“Mae gan ein ffermwyr traddodiadol gadwyni cyflenwi byrrach, sy’n golygu bod y sawl sy’n dewis prynu, bwyta a mwynhau porc o Gymru nid yn unig yn cefnogi busnesau lleol, ond hefyd yn cyfrannu at amgylchedd ffermio mwy cynaliadwy.“

Mae gan aelodau’r cyhoedd hyd at ddydd Sul, 19 Ionawri gael cyfle i ennill bwrdd ar eu cyfer hwy a’u cariad ar Ddydd Santes Dwynwen drwy roi cynnig ar y gystadleuaeth ar ein tudalen Facebook.

Byddwch hefyd yn gallu cael hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â phopeth sy’n ymwneud â’r Wythnos Porc o Gymru drwy’rcyfrif Twitter swyddogol gan ddefnyddio’r hashnod #WythnosPorc i ddangos eich cefnogaeth.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This