facebookPixel

Ein hoff ddewisiadau rhost ar gyfer y Pasg

Ebrill 8, 2022

Mae’n hwyr yn cyrraedd eleni, ond mae’r Pasg yn agosáu o’r diwedd ac rydym yn edrych ymlaen i wledda dros yr ŵyl.

Mae cinio rhost mor arbennig, –a’r hyn sydd gymaint gwell dros y Pasg yw bod tri achlysur lle mae cinio rhost yn bosib.

Gyda hynny mewn golwg, rydym wedi dewis ein hoff ddewis o brydau rhost. Bydd rhain yn creu cryn argraff – gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael rhywfaint o le i siocled wedyn!

  1. Ysgwydd porc wedi’i choginio’n araf mewn seidr, afalau a ffenigl

Mae’r rhost hwn gyda seidr ac afalau yn glasur i’r rheiny sy’n caru porc – allwch chi ddim o’i guro.

  1. Bol porc wedi’i rostio’n araf gyda chrofen grimp

Er bod hwn yn un araf iawn i’w goginio,  i wneud iawn am yr aros mae’n gyflym iawn i’w baratoi. Rhowch y cynhwysion ar eich hambwrdd rhostio a gadewch i’r popty wneud yr holl waith i chi.

  1. Lwyn porc wedi rhostio gyda stwffin dwyreiniol

Os ydych chi’n chwilio am bryd rhost gwahanol, dyma’r un i chi. Mae’r stwffin pum sbeis Tseiniaidd, mêl, eirin a shibwns yn ffordd hawdd iawn o roi gwedd newydd flasus ar eich rhost Pasg rheolaidd.

  1. Ysgwydd porc wedi’i rhostio’n araf gydag afalau, sinsir, triog a phupur Jamaica

Mae’r cyfuniad hwn o flas melys, meddwol fel breuddwyd. Gweinwch y rhost hwn gyda stwnsh hufennog am bryd y bydd eich gwesteion yn sicr o’i gofio.

Am hyd yn oed fwy o ysbrydoliaeth, ewch i’r dudalen ryseitiau.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This