facebookPixel

Beth am roi Porc Blasus fel anrheg y Nadolig hwn

Rhagfyr 2, 2020

Fyddai’r Nadolig ddim yn Nadolig heb fwyd a diod da.

Eleni, er efallai bod cyfyngiadau ar faint o bobl y gellir coginio ar eu cyfer o dan yr un to, ddylai hynny ddim effeithio ar ansawdd y bwyd fyddwn ni’n gweini, ac mae gennym ni ryddid i brynu ein bwyd Nadoligaidd gan ba fanwerthwr bynnag yr hoffwn ni.

Mae ar fusnesau annibynnol Cymru eich angen CHI yn ystod y cyfnod Nadoligaidd hwn – a thu hwnt – fel y gallant barhau i gyfrannu’n gadarnhaol i’w cymunedau lleol.

Er mwyn helpu i ysbrydoli’r arbenigwyr bwyd hynny yn ein plith i wneud y gorau o rai o’r cynhyrchion gwych sydd ar gael ar ein trothwy, mae’r cogydd o Sir Benfro, Tom Simmons, wedi ymuno â ni i ddangos pam y dylai cwsmeriaid Cymru ddewis porc lleol y Nadolig hwn.

 

 

Cadwch olwg ar sianeli Porc Blasus drwy gydol mis Rhagfyr i ddarganfod ryseitiau Nadoligaidd newydd sbon danlli fydd yn addas ar gyfer criwiau o unrhyw faint, gan gynnwys:

Gallwch hefyd ddilyn ein sianeli eraill, Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI am fwy o ryseitiau Nadoligaidd, fydd yn siwr o dynnu dŵr o’ch dannedd, trwy gydol y mis hwn – digon o ddewis felly!

 

Safbwynt arbenigwr bwyd

Mae Tom, sydd wedi bod wrth y llyw yn Tom Simmons Tower Bridge yn Llundain ers 2017, wedi dychwelyd i Gymru yn ddiweddar ac wedi agor Thomas by Tom Simmons gyda’i bartner, Lois. Mae’r bwyty newydd ym Mhontcanna, Caerdydd yn cael ei ddylanwadu gan fwyd Prydeinig a Ffrengig ac yn cael ei ysbrydoli gan wreiddiau Cymreig Tom.

Dywedodd Tom, sydd wedi dwli ar goginio erioed a sydd â pharch ac angerdd mawr at natur a chynhwysion Cymreig:

“Mae’r Nadolig yn gyfnod prysur i ni, ond rydym ni wastad yn rhoi sylw i fanylion ansawdd a blas ein bwyd – dyna pam mai dim ond y cynhyrchion gorau gan ein cyflenwyr a’n ffermwyr lleol rydyn ni’n eu defnyddio.

“Rydym ni’n credu bod cig sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol yn blasu’n fwy ffres ac yn well na chynnyrch sydd wedi’i gynhyrchu ar raddfa fawr ac sydd wedi teithio ymhellach i gyrraedd platiau pobl, felly rydym ni’n falch iawn o gefnogi unrhyw ymgyrch sy’n hyrwyddo cefnogi cynhyrchwyr bwyd o Gymru.

“Mae gen i berthynas bersonol gyda phob cyflenwr i sicrhau fy mod yn defnyddio’r cynhwysion gorau posibl. Rwy’n gwybod yn union o ba ffermydd mae fy nghigydd yn cael ei gig, felly rwy’n hyderus mai’r hyn rydym ni’n ei roi o flaen ein cwsmeriaid yw’r hyn y mae’n honni bod. Mae olrhain yn gwneud cymaint o wahaniaeth i ni ac yn y pen draw gall ein cwsmeriaid fod yn hyderus yn ansawdd y cynnyrch.

“Pan rwy’n prynu gan gigydd neu gyflenwr lleol, rwy’n gwybod fy mod nid yn unig yn cael cynnyrch o safon, ond fy mod yn cefnogi’r economi leol ac yn helpu’r amgylchedd hefyd drwy leihau milltiroedd bwyd. Gall pawb chwarae eu rhan i helpu ein manwerthwyr bwyd a diod lleol llai y Nadolig hwn.”

 

Y pwysigrwydd i economi Cymru

Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn cefnogi’r ymgyrch, ac yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant i les economaidd cymunedau ledled Cymru gydag ymchwil yn dangos bod hyd at 70c o bob punt sy’n cael ei wario’n lleol gyda BBaCh, yn cylchredeg yn ôl i’r economi leol – arian sy’n cael ei ail-fuddsoddi i wella ein cymunedau.

Wrth siarad am bwysigrwydd y gadwyn gyflenwi gyfan i economi Cymru, o ffermwyr i gigyddion a bwytai’r stryd fawr, a phopeth arall yn y canol, dywedodd Pennaeth Materion Allanol FfBB Cymru, Ben Cottam:

“Rydym ni’n sylweddoli bod eleni wedi bod yn anodd i fusnesau bach ledled Cymru, ac mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cefnogi busnesau lleol Cymru yn ystod y cyfnod cythryblus hwn, yn enwedig o gofio’r effaith andwyol y gallai Brexit heb gytundeb ei gael ar ein ffermwyr.

“Gallwn fod yn falch iawn o’r cig oen, y cig eidion a’r porc o safon mae ein ffermwyr yn ei gynhyrchu ac nid yw’n gyfrinach bod ein safonau ymysg y gorau’n y byd. Yn ddiweddar, anogwyd y cyhoedd yng Nghymru i gefnogi cwmnïau bach ar yr adeg dyngedfennol hon yn dilyn y clo byr diweddar, ac ymhlith ein hawgrymiadau roedd i bobl siopa’n fach ac yn lleol y Nadolig hwn, i gofio ymweld â bwytai a chaffis annibynnol a hefyd i gefnogi’r sector lletygarwch.

“Felly, byddwn yn annog pobl nid yn unig i fynd allan a phrynu bwyd sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol ond hefyd i ymweld â bwytai a chaffis sy’n gweini bwyd lleol ac sy’n buddsoddi’n ôl yn nyfodol ein cymunedau.”

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This