Mae’n hwyr yn cyrraedd eleni, ond mae’r Pasg yn agosáu o’r diwedd ac rydym yn edrych ymlaen i wledda dros yr ŵyl.
Mae cinio rhost mor arbennig, –a’r hyn sydd gymaint gwell dros y Pasg yw bod tri achlysur lle mae cinio rhost yn bosib.
Gyda hynny mewn golwg, rydym wedi dewis ein hoff ddewis o brydau rhost. Bydd rhain yn creu cryn argraff – gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael rhywfaint o le i siocled wedyn!
Mae’r rhost hwn gyda seidr ac afalau yn glasur i’r rheiny sy’n caru porc – allwch chi ddim o’i guro.
Er bod hwn yn un araf iawn i’w goginio, i wneud iawn am yr aros mae’n gyflym iawn i’w baratoi. Rhowch y cynhwysion ar eich hambwrdd rhostio a gadewch i’r popty wneud yr holl waith i chi.
Os ydych chi’n chwilio am bryd rhost gwahanol, dyma’r un i chi. Mae’r stwffin pum sbeis Tseiniaidd, mêl, eirin a shibwns yn ffordd hawdd iawn o roi gwedd newydd flasus ar eich rhost Pasg rheolaidd.
Mae’r cyfuniad hwn o flas melys, meddwol fel breuddwyd. Gweinwch y rhost hwn gyda stwnsh hufennog am bryd y bydd eich gwesteion yn sicr o’i gofio.
Am hyd yn oed fwy o ysbrydoliaeth, ewch i’r dudalen ryseitiau.