facebookPixel

Beth sy’n gwneud Porc Blasus mor arbennig?

Medi 28, 2022

Dros yr haf cynhaliwyd ein pedwaredd gystadleuaeth ‘Cyflwynwch Eich Selsig Gorau’ blynyddol, gan ddathlu’r selsig gorau sydd gan ein cynhyrchwyr porc yng Nghymru i’w cynnig. Llwyddodd tri cynhyrchydd i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y rownd derfynol, gyda Red Valley Farm o Gaerfyrddin yn dod i’r brig gyda’u selsig garlleg gwyllt. Gallwch ddarllen mwy am hynny yma.

Fe ofynnon ni i rai o’n cynhyrchwyr porc a’n cogyddion gorau pam eu bod yn credu mai Porc Blasus yw’r gorau sydd ar gael. O’r tywydd yng Nghymru i’r gadwyn gyflenwi fer, dyma oedd ganddyn nhw i’w ddweud.

Roedd Chris Wolsey o Prendergast Butchers yn credu mai’r amodau tywydd ac arferion ffermio yw’r rhesymau fod y Porc mor flasus:

“Dwi’n meddwl bod Cymru yn lle mor ffantastig, ni’n cael lot o law ond ni’n cael lot o haul. Dwi’n meddwl bod y dulliau ffermio sydd gyda ni yng Nghymru ymysg y gorau yn y byd, ac mae’n dangos ym mlas y porc.”

Roedd gan Greame Carter o’r Red Valley Farm buddugol hyn i’w ddweud:

“Mae’n caniatáu i bobl wybod bod eu cynnyrch yr ydym wedi’i ddarparu yn derbyn gofal da, yn cael ei fagu allan mewn haul hyfryd fel heddiw. Mae mor ffres, blasus a heb lawer o fraster o’i gymharu â’r stwff y gallwch ei brynu oddi ar silffoedd yr archfarchnad.”

Y gadwyn gyflenwi fer a’r olrheinedd sy’n dod gyda prynu Porc o Gymru fodd bynnag oedd Wayne Hayward o Puff Pigs yn credu sy’n gwneud i Porc Blasus sefyll allan:

“Mae’r diwydiant porc Cymreig yn fach iawn, ond mae ‘na gadwyn gyflenwi fechan iawn o fewn hynny. Mae’n pedigri, felly mae olrheinedd gwych ar gael a phob mochyn gyda rhif unigryw, ac mae’r magu araf yn ychwanegu at y blas rydyn ni’n meddwl.”

A beth mae’r arbenigwyr barbeciw Chris Roberts yn ei feddwl o Borc Blasus?

“Mae’n gig hyblyg iawn ac mae’n brydferth. Porc Cymru am byth!”

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This