Chris Roberts

Cogydd enwog ac arbenigwr barbeciw

Dwi wrth fy modd yn coginio a phan mae cynnyrch mor wych â phorc Cymreig lleol ar gael, mae’n bleser ei ddefnyddio a’i rannu gyda fy nheulu a ffrindiau.

Fel mae nifer ohonoch chi’n gwybod, dwi wrth fy modd yn coginio gyda thân, a defnyddio barbeciw yw un o fy hoff ffyrdd o goginio cig. Yn fy marn i, does dim byd yn well na choginio yn yr awyr agored gyda chynhwysion lleol Cymreig.

Cofiwch fod ‘na fwy i goginio porc ar y barbeciw na dim ond selsig! Ewch amdani a defnyddiwch amrywiaeth o gig – mae golwythion porc trwchus, blasus wedi eu mwydo yn blasu’n anhygoel dros lo neu fflamau, yn enwedig pan fo’r haenen drwchus o fraster sydd ar y tu allan yn dechrau crimpio a charameleiddio. Gallwch chi hyd yn oed wneud porc wedi ei rwygo ar y barbeciw gan ddefnyddio potyn – mae’r cig yn tynnu dŵr o’ch dannedd ac yn syrthio i ffwrdd ar ôl ychydig oriau.

Os nad ydych chi’n ffan o’r barbeciw, does dim byd yn well na darn o ham, sydd wastad mor gartrefol ac yn f’atgoffa i o fwyd Nain.

Felly, dewch i adnabod eich cigydd neu gynhyrchydd porc a dewch i wybod pam fod porc Cymreig lleol ymhlith ygorau a gewch.