facebookPixel

Cynhyrchydd o Gaerfyrddin yn ennill gwobr am y selsig gorau yng Nghymru

Gorffennaf 22, 2022

Mae Red Valley Farm yng Nghaerfyrddin yn dathlu dod yn gyntaf yng nghystadleuaeth ‘Cyflwynwch Eich Selsig Gorau 2022’ Hybu Cig Cymru, gyda’u selsig garlleg gwyllt yn cael eu coroni fel y sosejys gorau un yng Nghymru.

Roedd y partneriaid busnes Andy Washbourne a Graeme Carter wrth eu bodd gyda’r fuddugoliaeth, gyda’r cynhyrchwyr llwyddiannus yn cipio’r wobr boblogaidd am yr ail flwyddyn yn olynol. Fel enillwyr, byddan nhw nawr yn cymhwyso’n awtomatig ar gyfer cystadleuaeth selsig ‘Pencampwr y Pencampwyr’ yng ngwobrau Siop Gigydd y Flwyddyn y DU 2023. Cwech ddysgu mwy am y fferm yn y fideo isod:

Wrth siarad ar ôl ennill y teitl am yr eilwaidd yn olynol yn ystod digwyddiad arbennig yn Sioe Frenhinol Cymru, dywedodd Graeme Carter: “Mae wir yn anrhydedd anhygoel bod ein selsig wedi’u henwi fel y gorau yng Nghymru. Mae ennill gwobr fel hon wir yn gwneud yr holl waith caled yn werth chweil ac yn dangos bod ein hethos o gynhyrchu porc o safon, ar raddfa fach ac yn lleol yn talu ar ei ganfed yn y diwedd.

“Roedden ni’n falch iawn o’n selsig garlleg gwyllt, ond mae’n dal yn syndod pleserus i ennill y teitl. Cawson ni amser da iawn yn y digwyddiad beirniadu terfynol ac mae’r ffaith bod y safon mor uchel ymhlith yr holl gystadleuwyr oedd ar y rhestr fer yn dangos pa mor wych yw’r diwydiant porc yng Nghymru.

“Ers cymryd awenau’r fferm gan fy rhieni ychydig flynyddoedd yn ôl, mae arbenigo mewn magu moch wedi troi’n angerdd i mi ac Andy. Cawson ni faedd fel anrheg i helpu i glirio’r tir ar ôl plannu rhywfaint o goed ac mae popeth yn llythrennol wedi tyfu o’r fan honno. Rydyn ni’n bwriadu mynd o nerth i nerth a chanolbwyntio ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud orau, sef porc o ansawdd, wedi’i gynhyrchu’n gynaliadwy.

“Rydyn ni nawr yn edrych ymlaen yn fawr at gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth selsig ‘Pencampwr y Pencampwyr’ ac yn gobeithio cael ein coroni fel y gorau ar draws y DU gyfan.”

Yn dynn ar sodlau Red Valley Farm roedd Prendergast Butchers o Hwlffordd a Puff Pigs o Ynys-y-bwl, yn syfrdanu’r panel o feirniaid oedd yn cynnwys y seren fwyd flaenllaw Chris ‘Flamebaster’ Roberts a’r prif feiriad, Clive Swan.

Dywedodd Chris: “Does neb yn hoffi sosejys yn fwy na fi ac roedd ansawdd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn golygu ei bod yn sicr yn bleser bod ar y panel beirniadu.

“Mae wastad yn anodd iawn dewis enillydd pan fo’r safon mor uchel, ond o’r cychwyn roedd y selsig garlleg gwyllt wedi creu argraff arnon ni. Roedden nhw’n edrych yn wych, roedd y cysondeb yn amlwg ac roedden nhw’n blasu’n anhygoel. Ar ôl cael sampl ohonyn nhw nawr rydw i’n eithaf awyddus i gael gafael ar y rysáit i geisio darganfod y gyfrinach o wneud i selsig flasu mor dda!”

Wrth sôn am ei lawenydd gyda safon y ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth eleni, dywedodd Rhys Llywelyn, Rheolwr Datblygu’r Farchnad yn Hybu Cig Cymru: “Roedd yn wych bod yn ôl yn Sioe Frenhinol Cymru i gynnal y gwobrau, a wnaeth safon y tri yn y rownd derfynol yn sicr ddim siomi. Fodd bynnag, yn y diwedd Red Valley Farm ddaeth i’r brig, felly llongyfarchiadau mawr iddyn nhw a dymunwn bob lwc iddyn nhw yn rowndiau terfynol ‘Pencampwr Pencampwyr’ y DU.

“Mae gan ein cynhyrchwyr porc ar raddfa fach yng Nghymru stori wych i’w hadrodd. Maen nhw’n arbenigo mewn creu cynnyrch unigryw, wedi’i fagu â llaw sy’n aml ond ar gael i’w brynu’n uniongyrchol ganddyn nhw eu hunain a siopau annibynnol lleol, fel siopau cigydd. Mae hyn yn ei wneud yn gynnyrch bwyd mwy cynaliadwy, yn cynhyrchu llai o filltiroedd bwyd, a byddwn yn annog defnyddwyr i chwilio am eu cynhyrchydd lleol a darganfod drostynt eu hunain yr ansawdd gwych sydd ar gael.”

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This