facebookPixel

Mae’n swyddogol! Mae’r canlyniadau wedi cyrraedd…

Gorffennaf 1, 2022

Yn gyntaf, diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn y gystadleuaeth ‘Cyflwynwch Eich Selsig Gorau’ eleni. Mae safon a nifer y ceisiadau wedi bod yn eithriadol.

Nid yw dewis y tri chynnig gorau wedi bod yn dasg hawdd (er yn dasg flasus!). Fodd bynnag, roedd y panel o Hybu Cig Cymru (HCC) a’r cigydd arobryn, Mark McArdle, yn unfrydol yn eu dewis, ac mae’n bleser gennym gyhoeddi mai ein tri chystadleuydd ar y rhestr fer yw:

Beth sy’n digwydd nesaf wrth chwilio am y selsig gorau?

Bydd rownd derfynol cystadleuaeth ‘Cyflwynwch Eich Selsig Gorau’ yn cael ei chynnal am 11am ddydd Iau 21 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru, a bydd yn un o uchafbwyntiau’r wythnos ar stondin HCC. Gyda Chris ‘Flamebaster’ Roberts yn feirniad gwadd, bydd y rownd derfynol yn achlysur arbennig iawn eleni gan y bydd yr enillydd yn derbyn y teitl uchel ei barch yn bersonol, yn hytrach nag yn rhithiol. Bydd yr enillydd lwcus hefyd yn cymhwyso’n awtomatig ar gyfer cystadleuaeth Pencampwr Pencampwyr y Selsig ledled y DU, a gynhelir yng Ngwobrau Siop Gigydd y Flwyddyn ym mis Chwefror 2023.

Cadwch lygad barcud

Byddwn yn cyhoeddi proffiliau o’r cynigion ar y rhestr fer dros yr wythnosau nesaf ac yn cyhoeddi’r enillydd trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol Porc Blasus yn ddiweddarach y mis hwn. Pob lwc i’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol!

Yn y cyfamser gallwch wylio’r ffeinal o’r gystadleuaeth llynedd…

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This