Clive Swan

Swans Farm Shop

Agorodd fy ngwrag, Gail, a finnau Siop Fferm Swans ger yr Wyddgrug yn 2003, ac ers hynny mae wedi ennill llawer o wobrau mawreddog gan gynnwys Manwerthwr y Flwyddyn a Chigydd Gorau Cymru.

Yma yn Swans rydym ni’n frwd dros gynhyrchu’r toriad gorau posibl o gig ar gyfer ein cwsmer, ac mae milltiroedd bwyd, ansawdd ac olrhain yn eithriadol o bwysig i ni. Rydym ni’n dechrau gydag anifeiliaid hapus ac yn cadw moch Cymreig pedigri ein hunain ar gyfer y siop, felly rydym ni’n gwybod popeth am y bywyd maen nhw wedi ei fyw a’i fod yn un da iawn.

Mae ein cenfaint o foch yn tyfu ac yn tyfu – dechreuom ni gyda dau fochyn yn 2010 ac erbyn hyn mae gennym ni dros 100!

Moch maes yw ein holl foch; mae rhai perchyll y tu allan ers eu geni, ond yn y gaeaf mae ganddyn nhw sied fawr i’w cadw’n gynnes braf. Gallwch weld rhai o’r moch hŷn y tu allan i’r siop fferm yn crwydro yn y caeau gyda chytiau i gysgodi ynddyn nhw.

Fel gyda phob math o ffermio, mae cadw moch yn golygu llawer o waith ond rydym ni wrth ein bodd. Mae’n ffordd o fyw y mae ein cwsmeriaid yn ei chefnogi pan maen nhw’n prynu ein cynnyrch; maen nhw’n dweud ie, dyma’r math o anifail annwyl, sydd wedi ei fagu â llaw rydym ni eisiau ei weld.