facebookPixel

Swans Farm Shop

Manwerthwr

Rydym ni’n fferm fryn draddodiadol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn cynhyrchu cynhyrchion eithriadol i’w gwerthu yn ein siop fferm ein hunain. Ers i ni agor yn 2003, rydym ni’n edrych yn barhaus ar yr hyn y gallwn ei dyfu ar ein fferm i’w werthu yn y siop. Mae ein cenfaint o foch yn tyfu ac yn tyfu – dechreuom ni gyda dau fochyn yn 2010 ac erbyn hyn mae gennym ni dros 100 o Foch Cymreig Pedigri! Mae’r holl foch yn cael eu geni yma a’u magu yn yr awyr agored, yn eu grwpiau teulu ac rydym ni’n tyfu ein haidd, gwenith, gwair a silwair ein hunain i fwydo ein hanifeiliaid dros y gaeaf.

Darllenwch fwy am Swans Farm Shop yn ein hadran Cwrdd â’r Cig.

Clive a Gail Swan
  • Rydym yn cynnig cludiant am ddim
  • Rydym yn cynnig cludiant ar draws Cymru
  • Rydym yn gwerthu mewn marchnadoedd ffermwyr
  • Rydym yn gwerthu o’n safleoedd
  • Rydym yn gwerthu yn genedlaethol mewn archfarchnadoedd
Swans Farm Shop
Ffrith Farm
Treuddyn Mold CH7 4LE