facebookPixel

Cysgodwch yn y tŷ yr hanner tymor hwn gyda’r ryseitiau pobi cartref â chynhwysion annisgwyl…

Chwefror 21, 2022

Mae’n deg dweud nad yw hyn y tywydd hanner tymor delfrydol!

Os nad ydych chi’n rhy awyddus i fentro i’r awyr agored yr wythnos hon ac yn chwilio am syniadau i ddiddanu’r plant, yna mae gennym y syniad perffaith!

Mae pobi yn ffordd wych o basio amser, a dysgu sgiliau coginio hanfodol i blant sy’n ddefnyddiol iddynt drwy gydol eu hoes.

Ond ni’n siarad am borc, ac os bosib does dim dim ryseitiau ar gyfer cacennau i gael? Wel, paratowch i gael eich synnu!

Gall ychwanegu cig moch i eitemau melys gwneud tipyn o wahaniaeth, gyda’r blas hallt a chrensiog yn ychwanegu rhywbeth gwahanol.

Rhowch gynnig ar y ryseitiau isod, ac nid yn unig cewch lawer o hwyl yn y gegin gyda’r plant, ond gallwch hefyd arbrofi gyda rhywbeth bach yn wahanol yn ystod yr hanner tymor.

Byddem wrth ein bodd yn gweld eich cacennau ac mae croeso i chi ein tagio ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’ch lluniau!

Sgonsen caws a bacwn

Mae’n bosib eich bod wedi cael sgonsen caws plaen o’r blaen, ond mae ychwanegu bacwn crensiog yn dod â gwrthgyferbyniad i’r caws hufennaidd. Gallwch fwyta’r rhain fel danteithion amser cinio, wedi’u gweini ag ambell bicl, relish neu ham.

Brownis bacwn a masarn

Sglodion siocled, powdr coco, surop masarn a siwgr… a bacwn wrth gwrs! Mae’r rhain yn damaid bach o nefoedd siocled i’r rhai sydd â dant melys go iawn.

 

Am hyd yn oed mwy o ysbrydoliaeth, ewch i’r dudalen ryseitiau.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This