facebookPixel

Sgons bacwn a caws

  • Amser paratoi 25 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • 4 tafell o facwn heb eu mygu, wedi’u torri’n fach
  • 100g o gaws cryf Cheddar, wedi’i gratio
  • 50g o gaws Parmesan, wedi’i gratio
  • 450g Blawd Codi
  • 150g o fenyn, heb halen, torri’n giwbiau bach
  • pinsied o halen
  • ½ llwy de o bowdr Cayenne
  • bwnsh bach o gennin sifi
  • 1 wy bach, wedi’i guro
  • 100ml o laeth neu laeth enwyn

Dull

Mae’r rysait hon yn gwneud tua 12 sgons.



  1. Cynheswch y ffwrn i 220ºC / 200ºC ffan / Marc Nwy 7.
  2. Rhoi’r bacwn mewn padell ffrio a’i ffrio nes yn frown a crensiog. Ei roi ar bapur cegin i oeri.
  3. Hidlo’r blawd i ddysgl, ychwanegu’r menyn a’r halen.
  4. Rhwbio’r menyn i mewn i’r blawd.
  5. Ychwanegu’r cawsiau (cadw ychydig i ysgeintio ar yr wyneb), cennin sifi a’r powdr Cayenne.
  6. Gwneud twll yn y canol ac ychwanegu’r wy wedi’i guro ac ychydig o’r llaeth. Defnyddio cyllell i droi’r cyfan a’i ddwyn ynghyd fel toes. Defnyddio mwy o laeth os oes angen.
  7. Ysgeintio ychydig o flawd ar y bwrdd a rholio neu wasgu’r gymysgfa i tua 4cm o drwch, torri allan cylchoedd gyda thorrwr priodol. Eu rhoi ar hambwrdd pobi.
  8. Brwsio’r wyneb gydag ychydig o laeth ac ysgeintio gweddill y caws ar yr wyneb.
  9. Rhowch yn y popty am tua 15-20 munud.
Share This