facebookPixel

Ar Ddiwrnod Bacwn eleni, mwynhewch frecwast i’r brenin

Awst 26, 2020

Meddyliwch am facwn, meddyliwch am frecwast. Gyda Diwrnod Rhyngwladol Bacwn ar y gorwel (dydd Sadwrn 5 Medi), dyma ddwy rysáit frecwast wych i roi’r cychwyn gorau posibl i’ch diwrnod.

Os mai brecwast wedi ffrio sy’n eich sbarduno yn y bore, mae ein rysáit brecwast llawn Cymreig newydd sbon yn berffaith i chi. Mae’r triawd o borc – sy’n cynnwys bacwn cefn crimp, selsig a phwdin gwaed – yn cael ei weini gyda rosti tatws bara lawr, ac mae’n werth codi o’r gwely i’w flasu.

 

 

Neu, i’r rhai ohonoch sy’n mwynhau brecwast swmpus ond heb y pwysau o jyglo’r holl elfennau gwahanol, rhowch gynnig ar y patis porc a chig moch brecinio hyn sy’n siŵr o lenwi’r bol. Maen nhw yr un mor flasus gyda thomatos bach ac ŵy wedi’i botsio, neu gallwch chi roi croeso i’r carbs drwy ychwanegu myffin Seisnig wedi’i dostio’n ysgafn.

Y newyddion gorau i bawb sydd wrth eu bodd â bacwn yw, yn groes i’r gred boblogaidd a’i enw ychydig yn wael, gall bacwn fod yn iach. Dyma sut:

  • Mae cig moch o ansawdd wedi’i halltu’n sych wedi’i brynu gan gynhyrchydd neu gyflenwr Porc Blasus yn debygol o gynnwys llai o gyffeithyddion ac ychwanegion na chig moch arferol o’r archfarchnad. Mae’r dull halltu sych hefyd yn golygu y bydd yn gollwng llai o ddŵr yn ystod y broses goginio, felly yr hyn a welwch pan fyddwch yn ei brynu yw’r hyn a gewch go iawn.
  • Mae bacwn cefn yn llawer is mewn braster nag y gallech ei feddwl, yn enwedig wrth docio’r croen a’i grilio yn hytrach na’i ffrio.
  • O’i fwyta’n gymhedrol (tua 70-100g y dogn) ac fel rhan o ddeiet cytbwys, iach, mae bacwn a thoriadau porc eraill yn ffynhonnell o faetholion a ffynhonnell gyfoethog o fitaminau B, gan gynnwys B3, B6 a B12, sy’n cadw’r system nerfol yn iach ac yn gysylltiedig â bywiogrwydd ac iechyd da yn gyffredinol.

Am hyd yn oed mwy o ryseitiau sy’n ysbrydoli, ewch draw i’n tudalen ryseitiau.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This