facebookPixel

Brecwast Cymreig gyda rosti tatws bara lawr

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 4-5 sleisen o facwn cefn
  • 4 selsigen porc
  • pwdin gwaed, wedi ei sleisio
  • 2 fadarchen fflat fawr
  • 2 wy
  • tomatos bach, ar winwydden

Ar gyfer y rosti tatws:

  • 2 daten fawr, wedi eu plicio a’u gratio’n fras
  • 1 genhinen fach, wedi ei thorri’n fân
  • 2 lwy de bara lawr, ffres neu mewn tun
  • 50g caws Cheddar Cymreig, wedi ei ratio
  • talp o fenyn hallt
  • pinsiad o halen a phupur du

Dull



  1. Rhagdwymo eich ffwrn i 200°C / 180°C ffan / Marc Nwy 6.
  2. Dechrau trwy wneud y rosti tatws. Twymo talp o fenyn mewn padell ffrio a ffrio’r genhinen yn ysgafn am ambell funud neu ddau tan ei bod yn feddal. Rhoi’r tatws wedi eu gratio mewn lliain sychu llestri glân a gwasgu cymaint o dŵr â phosibl allan dros bowlen a’i daflu. Yna cymysgu’r cennin, tatws, caws, bara lawr, pupur a halen mewn powlen fawr a chymysgu’n dda.
  3. Defnyddio llwy fetal i sgwpio’r gymysgedd i mewn i 4 pati eithaf mawr. Rhoi rhain mewn padell ffrio dwym ag olew ynddi a’u ffrio am 4-5 munud bob ochr tan eu bod yn euraidd a chrimp. Ni ddylid eu troi tan i chi weld lliw euraidd oddi tanynt, neu bydd y rosti yn torri’n ddarnau. Unwaith iddyn nhw goginio, mae angen eu cadw’n gynnes ar dymheredd isel os oes popty dwbl gennych chi wrth i chi goginio gweddill y brecwast, neu osod ffoil drostyn nhw, a’u rhoi’n ôl yn y popty poeth am funud neu ddau i’w twymo’n dda cyn ei gweini.
  4. Dechrau grilio’r selsig o dan gril canolig am funud neu ddau, a’u troi’n rheolaidd fel eu bod yn coginio’n gytbwys.
  5. Rhoi’r madarch, tomatos a’r pwdin gwaed ar hambwrdd pobi. Gan ddefnyddio brws crwst, rhoi ychydig o fenyn wedi toddi dros y madarch ac ychydig o olew dros y tomatos a’r pwdin gwaed cyn ychwanegu pupur du. Coginio yn y ffwrn am ryw 10 munud.
  6. Ychwanegu’r bacwn i’r gril gyda’r selsig (sydd bellach wedi bod yn coginio am ryw 8 munud), a’i goginio at eich dant am funud neu ddau – rydyn ni’n hoffi ein cig moch ni’n grimp.
  7. Dechrau potsio 2 wy mewn sosban o ddŵr berw, gyda llaw rydd neu gan ddefnyddio padell bostio wyau.
  8. Dylai’r holl elfennau fod yn barod yr un pryd. Rhoi’r holl gynhwysion ar blatiau, gan orffen y pryd gyda’r wy ffres wedi ei botsio ar ben y rosti tatws. Gellid ei weini gyda phowlen o iogwrt, mêl a ffrwythau ffres fel mefus a llus dros granola er mwyn gorffen y brecwast mewn ffordd ffres.
Share This