facebookPixel

Dau bryd ar glud Tsieinïaidd enwog sy’n werth eu ffugio…

Gorffennaf 24, 2020

Os mai pryd ar glud Tsienïaidd sy’n mynd â’ch bryd ar nos Wener, mae gennyn ni wledd go iawn ar eich cyfer chi.

Gan nad yw pob siop tecawê ar agor ar hyn o bryd, beth am roi cynnig ar ailgreu un o’r prydau Tseinïaidd adnabyddus hyn gartref, fel rhyw fath o ‘tŷcawê’?

Os ydych chi’n hoffi bwyd sawrus a melys, edrychwch ar ein rysáit porc sawrus a melys newydd a gwyliwch y fideo sy’n eich tywys chi drwy bob cam o’r broses goginio.

Mae’r rysáit newydd hon yn cyfuno cynhwysion ffres gyda chynnwys eich cwpwrdd bwyd fel saws coch a phinafal tun er mwyn creu blas melys a sawrus hyfryd. Mae rhoi haenen grimp o gwmpas y porc – sy’n haws na’r disgwyl, gyda llaw – yn gwella’r rysáit flasus hon gryn dipyn hefyd.

 

 

Neu os nad yw bwyd melys yn tynnu dŵr i’r dannedd, beth am roi cynnig ar y pryd porc, sinsir a sibols yma yn lle? Prin 10 munud mae’n ei gymryd i goginio, felly beth am roi cynnig arni – bydd y bwyd ar eich plat ac yn eich bol cyn y byddai’r cludwr lleol wedi cael cyfle i hyd yn oed gnocio ar eich drws!

Am hyd yn oed mwy o ysbrydoliaeth, ewch draw i’n tudalen ryseitiau.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This