facebookPixel

Ryseitiau perffaith i helpu dathlu’r Nadolig

Rhagfyr 3, 2020

Fyddai’r Nadolig ddim yn Nadolig heb fwyd a diod da, ac er i 2020 fod yn flwyddyn hynod heriol, dylai’r traddodiad hwnnw barhau.

Eleni, er efallai bod cyfyngiadau ar faint o bobl y gellir coginio ar eu cyfer o dan yr un to, ddylai hynny ddim effeithio ar ansawdd y bwyd fyddwn ni’n gweini.

Mae ar fusnesau annibynnol Cymru eich angen CHI yn ystod y cyfnod Nadoligaidd hwn – a thu hwnt – fel y gallant barhau i gyfrannu’n gadarnhaol i’w cymunedau lleol.

Dyna pam i ni greu dwy rysait newydd sbon i lenwi’ch hosan Nadolig a rhoi hwb i fwydlen yr ŵyl, tra’n arddangos Porc Blasus o Gymru ar ei orau.

 

Lwynau canol porc crimp gyda grefi port a llugaeron

Mae’r rysáit bendigedig hon yn ddewis amgen trawiadol a hynod flasus i dwrci ar ddydd Nadolig. Caiff y Lwyn Porc ei gydnabod fel y rhan mwyaf tyner o’r mochyn, ac wrth iddo doddi yn eich ceg mae’n cyferbynnu’n hyfryd gyda chrensian y bacwn o’i gwmpas – ychwanewch lugaeron zingy ac mae ‘na wledd ar eich plât.

Mae’r pryd hwn yn gweini 6-8, ond os ydych chi’n coginio i lai o bobl peidiwch â phoeni – mae’n gwneud bwyd dros ben gwych y gellir ei ailgynhesu neu i’w fwyta’n oer. Gellir ei baratoi hyd yn oed y noson gynt, yn barod i’w goginio drannoeth, gan gadw’r diwrnod mawr mor syml a phleserus â phosibl.

 

Pryd hambwrdd pobi porc Nadoligaidd

Mae’r saig un hambwrdd syml ond effeithiol hwn yn llawn dop o flasau tymhorol fel sinamon, mêl a satsuma – heb sôn am hoff fwyd Nadolig pawb, soch mewn sach!

Mae’r rysáit hon yn ddelfrydol ar gyfer pryd teuluol Nadoligaidd, pan mai’r cyfan rydych chi ei eisiau ei wneud yw mwynhau bwyd sy’n eich llenwi â chynhesrwydd yr ŵyl ond sy’n ddidrafferth ei goginio gan roi cyfle i chi ymlacio.

 

Methu penderfynu?

Gallwch hefyd ddilyn ein sianeli eraill, Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI am fwy o ryseitiau Nadoligaidd, fydd yn siwr o dynnu dŵr o’ch dannedd, trwy gydol y mis – digon o ddewis felly beth bynnag yw’ch dewis o gig coch Cymreig y Dolig hwn!

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This