facebookPixel

Enillwch daleb Porc Blasus gwerth £100

Ionawr 21, 2022

I ddathlu Wythnos Porc o Gymru 2022 (24 – 30 Ionawr), rydym yn cynnig cyfle i dri pherson lwcus ennill taleb Porc Blasus gwerth £100 i’w wario yn unrhyw un o’n manwerthwyr Blasus Porc gwych.

Dyma beth sydd angen i chi ei wneud i gael cyfle o ennill:

  1. Ewch draw a dilynwch ein tudalennau Twitter, Facebook neu Instagram, yna hoffwch a thagio ffrind yn ein post cystadleuaeth.
  2. Fel arall, neu os ydych eisoes yn dilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, gallwch gofrestru ar gyfer ein e-gylchlythyr Porc Blasus, sy’n llawn syniadau ryseitiau, awgrymiadau coginio a chynnwys ychwanegol.
  3. Os ydych eisoes yn dilyn ein sianeli ac wedi tanysgrifio i’n e-fwletin, gallwch gystadlu drwy lenwi eich gwybodaeth gyswllt yn y cylchlythyr a gyhoeddwyd ar ddechrau Wythnos Porc o Gymru.

Cadwch lygad ar ein dudalen a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol drwy gydol Wythnos Porc o Gymru am bum rysáit a fideos newydd sbon.

Cystadleuaeth yn cau ar 06 Chwefror – pob lwc!

Mae telerau ac amodau’r gystadleuaeth i’w gweld yma.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This