Pa mor bell yw’n porc o’ch fforc?
Croeso i Wythnos Porc o Gymru
24 – 30 Ionawr 2022
Paratowch i ddathlu ein cynhyrchwyr a’n manwerthwyr porc crefftus gwych!
Eleni rydyn ni ac ambell wyneb cyfarwydd ac arbenigwyr bwyd wedi dod ynghyd i ddangos pa mor flasus, hyblyg ac agos at eich fforc yw ein porc go iawn.
I gychwyn pethau, gwyliwch arwr rygbi yn cael tipyn o her wrth gael dosbarth meistr Porc Blasus gyda deuawd deinamig barbeciw Cymru, Sam a Shauna, a darganfod pam fod porc ar wefusau pawb gyda’n ryseitiau sydd wedi’u creu’n arbennig gan ddetholiad o ddylanwadwyr bwyd Cymru.
Cariwch ymlaen i ddarllen i ddarganfod mwy…
Y bartneriaeth berffaith
Rydyn ni a’r darlledwyr Sam a Shauna (sy’n enwog am Hang Fire) a’r arwr rygbi Scott Quinnell wedi dod ynghyd ar gyfer dosbarth meistr fideo Porc Blasus unigryw.
Tomahawks porc BBQ yw pryd arbennig y dydd, wedi’u gweini â salsa verde India’r Gorllewin Sam a Shauna sy’n tynnu dŵr o’r dannedd a stêcs tatws melys wedi’u grilio.
Sut fydd Scott yn taclo’r her goginio hon?
A fydd e’n pasio fel pro porc neu a fydd ei ym-gais yn methu…?
Arbenigwyr yn eu maes
Gydag angerdd am borc, a sylw craff i fanylion, mae ein cynhyrchwyr yn creu cynnyrch eithriadol. Nid dim ond porc maen nhw’n ei gynhyrchu, maen nhw’n ei fyw a’i anadlu, ac maen nhw bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o ddod â’r cynnyrch gorau y gallan nhw i chi.
Teimlo’n lwcus?
I ddathlu Wythnos Porc o Gymru, rydyn ni’n cynnal cystadleuaeth wych.
Gallech chi fod yn un o dri enillydd lwcus i dderbyn y wobr anhygoel hon o daleb gwerth £100 i’w gwario gyda eich cynhyrchydd neu adwerthwr Porc Blasus lleol.
A chofiwch nad yw eich fforc byth yn bell o’n porc!
Ewch amdani. Pam lai?
Porc perffaith yn creu argraff anhygoel
Wedi’u creu’n arbennig ar gyfer Wythnos Porc o Gymru, mae’r pedwar blogiwr bwyd Cymreig hyn yn dod â’u prydau Porc Blasus unigryw i’r parti porc!
Edrychwch ar eu ryseitiau isod. Gallwch hefyd ddod o hyd i’w creadigaethau porc ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol yn ystod Wythnos Porc o Gymru.
Gadewch i ni gyflwyno…
Ffagots porc wedi’u lapio mewn cig moch gyda grefi saets a winwns
gan @therarewelshbit
Schnitzel porc gyda sglodion popty, mwstard a saws afal
gan @littlewelshfoodie
Golwyth porc tomahawk gyda salad perlysiau nam tok
gan @bradleyhangrybear
Donyts siwgr sinamon yn llawn bol porc gyda caramel menyn cnau miso a sglodion afalau
gan @llioangharad a @batchout
Gwyliwch y fideos diweddaraf o ryseitiau Porc Blasus
Rydyn ni wastad yn creu ryseitiau blasus a chyffrous sy’n dangos y gwahanol doriadau o borc sydd ar gael a fydd, gobeithio, yn eich ysbrydoli chi i goginio a gwneud y gorau o’r cig gwych a hyblyg hwn.
Gwyliwch rai o’n fideos diweddaraf o ryseitiau, neu ewch draw i’n tudalen ryseitiau am hyd yn oed fwy o ysbrydoliaeth.
Rhesymau i garu Porc Blasus






Ydych chi’n gynhyrchydd Porc Blasus?
Sut y gall Menter Moch Cymru eich helpu chi
Mae Menter Moch Cymru a Hybu Cig Cymru yn gweithio ar y cyd i ddathlu porc o Gymru, a chodi ei broffil gydag ymgyrch Wythnos Porc o Gymru.
Mae Menter Moch Cymru yn cefnogi a datblygu’r diwydiant porc yng Nghymru, gan ddarparu cymorth, hyfforddiant a chyngor i gynhyrchwyr a busnesau eraill yn y sector. Gallan nhw helpu mewn amrywiaeth o ffyrdd – felly cysylltwch â’r tîm am sgwrs, bydden nhw wrth eu bodd yn clywed gennych chi!
