facebookPixel

Y ‘normal newydd’: sut fyddwch chi’n siopa ar ôl covid?

Mai 29, 2020

Rydyn ni’n lwcus iawn ein bod ni’n ble rydyn ni, ac yn yr oes rydyn ni, fel nad ydyn ni wedi arfer â gweld silffoedd gwag neu brin mewn archfarchnadoedd. Dydyn ni ddim chwaith wedi arfer â rhywun yn dweud wrthon ni sut, a phryd, i siopa am fwyd.

Diolch i COVID-19, mae’r dyddiau o bicio allan i brynu ambell beth yn ôl y galw – a bod bron yn siŵr bod hen ddigon o’r eitemau hynny mewn stoc – bellach yn ymddangos fel moethusrwydd a braint nad oedd y rhan fwyaf ohonon ni, i fod yn onest, yn ymwybodol ohonyn nhw.

Nawr, wrth i’r mesurau cloi ddechrau cael eu llacio ac wrth i ni ddechrau dychmygu dychwelyd at ‘normalrwydd’, mae angen gofyn cwestiwn pwysig: a allwn ni ddysgu unrhyw wersi gan sut mae COVID-19 wedi effeithio ar ein harferion siopa; a oes unrhyw newidiadau rydyn ni wedi eu gwneud yr hoffen ni eu cadw?

Rydyn ni’n gwybod bod cynnydd wedi bod yng nghigyddion Cymru sy’n cynnig gwasanaethau ar-lein a chludo i’r cartref yn ystod y cyfnod cloi, a gan bod cwsmeriaid yn gadael y tŷ yn llai aml ac am gyfnodau byrrach, efallai bod y cyfleustra o brynu’n lleol bellach yn ôl ar yr agenda i nifer o siopwyr.

Nid peth gwael o gwbl mo hynny, yn ôl Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru, Gwyn Howells.

Wrth roi tystiolaeth trwy gyswllt fideo i bwyllgor yn y Senedd yn ddiweddar, pwysleisiodd fod y ffaith bod COVID-19 wedi amharu ar gadwyni bwyd mewn gwirionedd wedi amlygu pwysigrwydd diogelu’r cyflenwad bwyd i Gymru, ac y gellid ei ddefnyddio i ddylanwadu ar bolisi yn y dyfodol.

Yn syml, mae ‘diogelu’r cyflenwad bwyd’ yn golygu’r graddau y gallwn ni ddibynnu ar gael y bwyd rydyn ni ei eisiau a’i angen, pan rydyn ni ei eisiau a’i angen. Fel yr eglurodd Gwyn wrth ACau:

“Mae’r argyfwng [coronafeirws] wedi rhoi straen ar fusnesau yn y sector. Mae rhai wedi gallu arloesi a chreu cadwyni cyflenwi lleol newydd er mwyn cwrdd â galw’r cwsmer.

“Wrth i ni edrych tua’r dyfodol ar ôl yr argyfwng presennol, mae’n rhaid i ni ddysgu’r gwersi a sicrhau bod gan bobl ffynhonnell ddibynadwy o brotein o ansawdd da, sydd wedi ei gynhyrchu o safonau uchel amgylcheddol, waeth beth fo’r amharu a achoswyd gan ddigwyddiadau allanol.”

Yn ffodus, mae Cymru mewn safle da i gynnig bwyd cryf, cynaliadwy o safon uchel – yn enwedig, cigoedd coch fel porc, Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru – i gwsmeriaid mewn blynyddoedd i ddod. Mae hyn oherwydd bod ein tirwedd, gan gynnwys ein glaswelltir cyfoethog, glawiad uchel a thopograffi naturiol, yn creu’r amgylchedd perffaith i ffermio’r anifeiliaid hyn.

Nawr yn fwy nag erioed, mae pwysigrwydd cael mynediad at fwyd ffres, o ansawdd da yn flaenoriaeth i bobl. Gyda llai o ddolenni yn y gadwyn gyflenwi os ydych chi’n prynu’n lleol, nid yn unig bod y bwyd hwnnw’n fwy diogel ac yn fwy tebygol o gyrraedd silff y siop neu gownter y cigydd, ond mae hefyd yn well i’r blaned unwaith iddo gyrraedd, oherwydd y milltiroedd bwyd is.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, y tro diwethaf roedd diogelu’r cyflenwad bwyd yn broblem fawr i’r DU, cafodd rhagor o dir ei droi i mewn i dir fferm wrth i’r genedl sylweddoli y byddai’n rhaid iddi fwydo ei hun heb orfod dibynnu ar rymoedd allanol na ellid eu rheoli pe bai argyfwng arall yn digwydd yn y dyfodol. Mae coronafeirws wedi ein hatgoffa ni nad yw pethau’n digwydd yn ôl y cynllun bob tro, a bod yn rhaid i ni allu cynnal ein hunain bryd hynny.

P’un ai yw’n cael ei brynu’n uniongyrchol gan y cynhyrchydd wrth gât y fferm neu farchnad ffermwyr, neu gan eich cigydd, mae bron pawb yng Nghymru yn byw dafliad carreg o dir fferm, a thu ôl i’r dirwedd gyfarwydd honno saif y ddau gynhwysyn hanfodol a sylfaenol sy’n diogelu’r cyflenwad bwyd: y ffermwr, a’r anifeiliaid. Mae siopa am gig a chynnyrch lleol eraill yn cadw economïau lleol yn gryf, yn diogelu’r cyflenwad bwyd yn dda, yn cadw’r milltiroedd bwyd i lawr ac yn cadw cymunedau gyda’i gilydd – neges mae Glyn yn awyddus i gwsmeriaid ei dysgu o’r argyfwng diweddar.

Rydyn ni wedi bod yn ddiolchgar am weithwyr allweddol – sy’n cynnwys cynhyrchwyr bwyd – yn ystod COVID-19. Rydyn ni wedi eu hangen nhw mewn ffordd na welwyd erioed yn ystod y genhedlaeth hon.

Yn ystod yr wythnosau, misoedd a hyd yn oed efallai’r blynyddoedd nesaf, unwaith i’r cyfnod cloi ddod i ben ac i coronafeirws droi’n atgof, ni ddylen ni anghofio sut deimlad oedd diffyg mynediad neu lai o fynediad at y pethau roedd eu hangen arnon ni, fel bwyd.

Gadewch i ni hefyd gofio pwysigrwydd cefnogi ein cynhyrchwyr bwyd, a pharhau i gefnogi diwydiant ffermio, amaeth a bwyd Cymru trwy brynu’n lleol o ddewis yn hytrach nag o rheidrwydd, fel eu bod nhw yna y tro nesaf mae eu hangen nhw arnon ni hefyd.

Ewch i’n cyfeirlyfr ar-lein am restr lawn o gynhyrchwyr a manwerthwyr Porc Blasus a defnyddiwch ein map rhyngweithiol i ddod o hyd i’ch ffermwr a gwerthwr agosaf.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This