facebookPixel

Cyfle i ennill hamper Porc Blasus

Ionawr 14, 2021

I ddathlu Wythnos Porc o Gymru 2021 (18 – 24 Ionawr) ac annog pawb i Brynu’n Lleol. Meddwl yn Fyd-Eang, rydyn ni’n rhoi cyfle i dri pherson lwcus ennill hamper Porc Blasus moethus, sy’n llawn dop o borc blasus i’w goginio gartref.

Rydyn ni a rhai o ffigurau blaenllaw bwyd Cymru wedi dod ynghyd i’ch ysbrydoli a’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar y porc gwych sydd ar gael yma yng Nghymru, a byddwn yn rhannu eu ryseitiau newydd sbon nhw a ysbrydolwyd gan fwyd o bedwar ban y byd drwy gydol yr wythnos i fynd â chi ar antur goginio o gwmpas y byd – heb hyd yn oed adael eich cegin!

O ffefrynnau bwyd stryd Asiaidd fel Byns Bao a Char Siu, i Fedalau Porc gyda Saws Rym Cnau Coco wedi’u hysbrydoli gan y Caribî; o brydau Eidalaidd poblogaidd fel Ragù Ysgwydd Porc wedi’i Frwysio, i Fol Porc Hallt mewn arddull tapas Sbaenaidd. Beth bynnag fo’ch chwaeth, gwnawn ni ddangos i chi pa mor hawdd yw creu amrywiaeth enfawr o brydau blasus, i weddu i bob chwaeth, gyda Porc Blasus.

Dyma beth sydd angen i chi ei wneud i gael cyfle i ennill un o dri hamper Porc Blasus:

Ewch draw i’n tudalennau TwitterFacebook neu Instagram, dilynwch ein tudalen, yna hoffwch a tagiwch ffrind yn ein neges am y gystadleuaeth.

Fel arall, neu os ydych chi eisoes yn dilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, gallwch chi gofrestru ar gyfer ein e-gylchlythyr Porc Blasus misol newydd sbon, sy’n llawn syniadau am ryseitiau, awgrymiadau coginio a chynnwys bonws!

Cadwch lygad ar wythnosporc.cymru a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol drwy gydol Wythnos Porc o Gymru am yr wyth rysáit Prynu’n Lleol. Meddwl yn Fyd-Eang newydd ac unigryw.

Pob lwc, a bon voyage!

Gellir dod o hyd i delerau ac amodau’r gystadleuaeth yma.

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This