facebookPixel

Cyflwynwch Eich Selsig Gorau 2021

Mai 21, 2021

Mae ein cystadleuaeth i ganfod selsig gorau Cymru yn dychwelyd am ei thrydedd blwyddyn – a’r tro hwn rydym ni’n mynd i chwilio’n rhithwir am selsig sy’n serennu!

Gan na fydd Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn cael ei chynnal eleni, byddwn ni’n cyhoeddi’r tri chynnig sydd ar y rhestr fer ar raglen ddigidol ac yn cyhoeddi’r enillydd ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Porc Blasus.

Bydd yr enillydd lwcus yn cymhwyso’n awtomatig ar gyfer cystadleuaeth Pencampwr Pencampwyr y DU ac Iwerddon, a fydd yn cael ei chynnal yng Ngwobrau Rhithwir Cigydd y Flwyddyn 2021 ym mis Chwefror 2022.

I gystadlu, y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw llenwi’ch manylion, dweud wrthym ni beth yw cynhwysion eich selsigen a pham rydych chi’n meddwl ei bod yn arbennig. Rhaid i chi fod yn aelod dilys o Porc Blasus i gystadlu.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 21 Mehefin.

Cliciwch ar y ddolen hon i gystadlu nawr: www.surveymonkey.co.uk/r/XFBWH97

Pob lwc!

Cysylltwch â ni

Tŷ Rheidol, Parc Merlin,
Aberystwyth, SY23 3FF

Ffôn: 01970 625 050
E-bost: info@hybucig.cymru

Share This