- Gwasgwch y grawn pupur a gorchuddiwch y stêcs.
- Twymwch radell neu badell ffrio a choginiwch y stêcs am 2–4 munud.
- Ychwanegwch y garlleg a’r madarch a choginiwch am 4–5 munud arall.
- Ychwanegwch y crème fraîche, basil a’r dil.
- Twymwch yn araf am 1-2 munud.
- Gweinwch gyda sbigoglys a thatws wedi ffrio.
Stêcs porc gyda saws pupur a madarch hufennog
- Amser paratoi 10 mun
- Amser coginio 10 mun
- Ar gyfer 2
Bydd angen
- 2 stecen goch lwyn porc
- 1 llwy de grawn pupur cymysg, wedi eu gwasgu
- 1 llwy fwrdd olew
- 1 ewin garlleg, wedi’i gwasgu
- 100g madarch cymysg
- 5 llwy fwrdd (75ml) crème fraîche
- 1 llwy fwrdd basil ffres, wedi ei rhwygo
- 1 llwy fwrdd dil ffres, wedi ei rhwygo