- Cynheswch y ffwrn i 220ºC / 200ºC ffan / Marc Nwy 7.
- Rhoi’r bacwn mewn padell ffrio a’i ffrio nes yn frown a crensiog. Ei roi ar bapur cegin i oeri.
- Hidlo’r blawd i ddysgl, ychwanegu’r menyn a’r halen.
- Rhwbio’r menyn i mewn i’r blawd.
- Ychwanegu’r cawsiau (cadw ychydig i ysgeintio ar yr wyneb), cennin sifi a’r powdr Cayenne.
- Gwneud twll yn y canol ac ychwanegu’r wy wedi’i guro ac ychydig o’r llaeth. Defnyddio cyllell i droi’r cyfan a’i ddwyn ynghyd fel toes. Defnyddio mwy o laeth os oes angen.
- Ysgeintio ychydig o flawd ar y bwrdd a rholio neu wasgu’r gymysgfa i tua 4cm o drwch, torri allan cylchoedd gyda thorrwr priodol. Eu rhoi ar hambwrdd pobi.
- Brwsio’r wyneb gydag ychydig o laeth ac ysgeintio gweddill y caws ar yr wyneb.
- Rhowch yn y popty am tua 15-20 munud.
Sgons bacwn a caws
- Amser paratoi 25 mun
- Amser coginio 15 mun
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 4 tafell o facwn heb eu mygu, wedi’u torri’n fach
- 100g o gaws cryf Cheddar, wedi’i gratio
- 50g o gaws Parmesan, wedi’i gratio
- 450g Blawd Codi
- 150g o fenyn, heb halen, torri’n giwbiau bach
- pinsied o halen
- ½ llwy de o bowdr Cayenne
- bwnsh bach o gennin sifi
- 1 wy bach, wedi’i guro
- 100ml o laeth neu laeth enwyn
Dull
Mae’r rysait hon yn gwneud tua 12 sgons.