- Cynheswch y popty i 200ºC / 180ºC ffan / Marc Nwy 6.
- Rhowch haen denau o’r llenwad selsig ar wyneb y crwst gan adael tua 1 cm o grwst ar yr ochrau.
- Taenwch y siwtni ar y llenwad selsig, yna rhowch gaws drosto.
- Rowliwch y crwst yn dynn, gan frwsio ychydig o ddŵr neu laeth ar yr ymyl allanol i sicrhau fod y crwst yn glynu.
- Gan ddefnyddio cyllell finiog torrwch y crwst yn 12 cylch tua 1 cm o drwch. Rhowch nhw ar yr hambwrdd, a gadael ychydig o le rhyngddynt gan y bydd y crwst yn ehangu wrth goginio.
- Rhowch nhw yn y popty poeth am tua 15-20 munud nes bod y crwst wedi coginio ac yn euraidd ei liw.
Pinwheels selsig
- Amser paratoi 10 mun
- Amser coginio 20 mun
- Ar gyfer 3
Bydd angen
- 1 pecyn o grwst pwff wedi’i rowlio’n barod
- llenwad o 3-4 selsig drwchus porc
- 2 lwy fwrdd siwtni
- 50g gaws Cheddar wedi’i gratio
- ychydig o ddŵr neu laeth
Dull
Mae’r rysait hon yn gwneud tua 12 pinwheel.