- Cymysgwch y cynhwysion ar gyfer y rhwbiad ac yna ei rwbio dros y lwynau canol. Gadewch i orffwys am o leiaf 20 munud.
- Gwnewch y stwffin. Rhowch y datys a’r syltanas mewn powlen fechan ac ychwanegu’r port, cyn ei adael i orffwys am 10 munud.
- Cynheswch y ffwrn i 200ºC / 180ºC ffan / Marc Nwy 6.
- Cynheswch yr olew ac ychwanegu’r menyn a’r winwnsyn, cyn ei ffrio’n ysgafn nes ei fod yn feddal.
- Cymysgwch holl gynhwysion y stwffin sy’n weddill cyn eu gadael i oeri.
- Rhowch y cig moch ar fwrdd a gan ddefnyddio cefn cyllell, ymestynwch y tafelli ychydig heb eu rhwygo.
- Gyda chyllell finiog gwnewch hollt ddofn ym mhob lwyn ganol, gan agor pob lwyn ar ei hyd ond heb dorri’r holl ffordd trwyddi.
- Llenwch y ddwy lwyn ganol gyda’r stwffin, yna defnyddiwch y tafelli o gig moch i lapio a gorchuddio’r lwyn ganol gyfan.
- Rhowch y lwynau canol ar hambwrdd pobi a’u coginio am ryw 25 – 30 munud tan bod y porc wedi ei goginio a’r cig moch yn grimp ac yn euraidd. Gorchuddiwch y cyfan yn ysgafn gyda ffoil a’i adael i orffwys am 10 munud cyn sleisio’r lwynau canol yn sleisys trwchus i’w gweini.
- I wneud y grefi, allwyswch unrhyw suddion sydd wedi dod allan o’r porc i mewn i jwg. Toddwch y menyn, ychwanegwch y blawd a’u cymysgu i wneud roux. Ychwanegwch y stoc ac unrhyw suddion cig sydd dros ben yn raddol a’u berwi’n ysgafn – gan barhau i droi’r gymysgedd o hyd. Ychwanegwch y port a’i ferwi cyn ychwanegu gweddill y cynhwysion. Berwch eto, ychwanewch halen a phupur at eich dant, cyn ei weini gyda’r lwyn ganol wedi ei sleisio.
Lwynau canol porc crimp gyda grefi port a llugaeron
- Amser paratoi 35 mun
- Amser coginio 40 mun
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 2 lwyn ganol porc wedi ei thocio
- 12 tafell cig moch rhesog
Ar gyfer y rhwbiad:
- 1 llwy fwrdd olew
- 8 deilen saets, wedi eu torri’n fân, neu ½ llwy de saets sych
- 2 ewin garlleg, wedi eu torri’n fân
- ½ llwy de pupur du
- ½ llwy de pupur Jamaica
Ar gyfer y stwffin:
- 50g datys wedi eu torri
- 25g syltanas
- 3 llwy fwrdd port
- 1 llwy fwrdd olew
- 25g menyn
- 1 winwnsyn coch, wedi ei dorri’n fân
- ½ llwy de saets sych
- pupur a halen
- 50g llugaeron ffres, wedi eu torri
- 1 llwy fwrdd siwgr brown (ddim yn hanfodol)
- 1 afal bwyta, wedi ei ratio
- 25g cnau pîn
- 120g briwsion bara, cyflawn neu wyn
- 1 wy bychan, wedi ei guro
Ar gyfer y grefi port a llugaeron:
- 20g menyn
- 2 lwy fwrdd blawd plaen
- 250ml stoc porc neu gyw iâr
- 50ml port
- 25g llugaeron ffres
- 2 lwy fwrdd saws llugaeron
- pinsiad o bupur Jamaica
- pupur a halen
Dull
Mae’r pryd hwn yn bwydo 6-8 person, ond os ydych chi’n coginio i lai o bobl peidiwch â phoeni – mae’n gwneud sbarion gwych y gellir eu haildwymo neu eu bwyta’n oer. Gellir ei baratoi y noson gynt hyd yn oed, yn barod i’w goginio y diwrnod canlynol, sy’n golygu ei fod yn ddewis gwych ar gyfer cinio Nadolig yn lle twrci.