- Tynnwch y porc o’r oergell a gadewch iddo gyrraedd tymheredd yr ystafell. Sychwch wyneb y porc gyda phapur cegin.
- Cynheswch y popty i 230˚C / 210˚C ffan / Nwy 8 .
- Rhowch yr haneri moron, y darnau nionyn a’r dail saets mewn tun rhostio a gosodwch y porc ar y top. Rhwbiwch yr olew dros wyneb y porc a’i ysgeintio â halen môr.
- Rhowch yn y popty am 20 munud yna gostyngwch y tymheredd i 180˚C / 160˚C ffan / Nwy 4 a choginiwch am weddill yr amser (tua 1 awr 30 munud).
- Tra bod y porc yn coginio, paratowch yr afalau. Sleisiwch dop yr afalau tua 1cm o’r top a chrafu’n ysgafn o amgylch canol yr afal (i’w atal rhag byrstio). Tynnwch graidd yr afal allan.
- Gwnewch y llenwad trwy gynhesu’r olew a’r menyn a ffrio’r cig moch a’r winwnsyn yn ysgafn am ychydig funudau nes eu bod yn frown ysgafn. Ychwanegwch y saets, sinamon, bricyll a sesnin, a choginiwch am 5 munud arall.
- Rhowch yr afalau mewn dysgl popty a stwffiwch y canol gyda’r llenwad. Rhowch ychydig ar ben pob un ac yna rhowch y caeadau yn ôl ymlaen, neu rhowch nhw yn y tun o amgylch y darn porc am 35-40 munud olaf yr amser coginio.
- Gorffwyswch y porc cyn ei dorri.
Lwyn porc rhost gydag afalau bach pob wedi’u stwffio
- Amser paratoi 30 mun
- Amser coginio 1 awr 50 mun
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 1.8kg darn lwyn porc, y croen wedi’i grafu
- 1 llwy fwrdd olew
- Halen môr
- 1 foronen, wedi’i haneru ar ei lled
- 1 winwnsyn bach, wedi’i dorri’n dalpiau
- Dail saets
- Ar gyfer yr afalau wedi’u stwffio:
- 6 afal bwyta coch cadarn
- 1 llwy fwrdd olew
- Talp o fenyn
- 1 winwnsyn coch, wedi’i dorri’n fân
- 4 sleisen o gig moch rhesog, wedi’u torri
- 40g bricyll sych, wedi’u torri’n fân
- 1 llwy de saets sych
- ½ llwy de sinamon
- Pupur a halen