-
Amser paratoi
20 mun
-
Amser coginio
1 awr
-
Ar gyfer
4
Bydd angen
- 450g o ffiled porc goch, wedi deisio i giwbiau ½”
- 1 llwy fwrdd o olew
- 4 selsigen drwchus, sbeislyd
- 1 nionyn, wedi’i sleisio
- 2 ewin garlleg, wedi’u gwasgu
- 2 lwy fwrdd o sesnin jerk
- 225g o reis grawn hir
- tun o domatos, wedi’u torri
- 600ml o stoc
- 1 llwy fwrdd o biwrî tomato
- 1 pupur coch, heb yr hadau ac wedi’i ddeisio’n fân
- 1 pupur melyn, heb yr hadau ac wedi’i ddeisio’n fân
- 5 sibolsyn, wedi’u sleisio’n fân
- 1 tsili coch, heb yr hadau ac wedi’i dorri (dewisol)
- 2 lwy fwrdd o goriander ffres
- Cynheswch yr olew mewn sosban fawr. Ychwanegwch y nionyn a’r garlleg a choginiwch am 2 funud nes maent wedi meddalu.
- Ychwanegwch y selsig a’u brownio. Tynnwch y selsig o’r sosban a gadael iddynt oeri ychydig cyn eu torri’n 3.
- Ychwanegwch y ciwbiau porc a’u coginio nes maent wedi brownio.
- Ychwanegwch y sesnin jerk a choginiwch am funud arall.
- Ychwanegwch y reis grawn hir a’i droi nes mae wedi’i orchuddio yn y sbeisys.
- Ychwanegwch y tomatos wedi’u torri, y stoc, y piwrî tomato a’r pupur coch a melyn. Cymysgwch yn dda, gorchuddiwch a mudferwch am 30 munud gan ei droi bob hyn a hyn (efallai y bydd angen i chi ychwanegu mwy o hylif os yw’n ludiog).
- Tynnwch y caead am 10-15 munud arall nes mae wedi tewychu. Ychwanegwch y sibolsyn, tsili (os yn denfyddio) a choriander ffres.
- Gweiniwch gyda bara crystiog a rhagor o lysiau wedi’u stemio os dymunwch.