facebookPixel

Ham Nadoligaidd

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 3 awr
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

  • darn o ham
  • 1 tin o seidr
  • 1 peint o sudd afal
  • 2 ddeilen llawryf
  • 1 llwy de grawn pupur
  • 1 llwy de hadau coriander

Ar gyfer y sglein:

  • 50g siwgr brown golau
  • 1 llwy fwrdd o fêl clir
  • 2 lwy de o fwstard
  • 2 lwy fwrdd o saws soy
  • 2 clementine, croen
  • 1 llwy fwrdd marmalade
  • clofs – i addurno

Dull

Mae’r ham rhost hwn yn flasus wedi’i weini’n boeth gyda llysiau rhost tymhorol a thatws stwnsh hufennog, neu’n oer fel rhan o salad Gŵyl San Steffan neu mewn brechdanau.



  1. Cynheswch y ffwrn i 180ºC / 160ºC ffan / Marc Nwy 4. Pwyso’r darn cig i weithio allan faint o amser fydd angen – 25 munud i bob 450g wedi iddo ddod i’r berw. Mae’r darn cig yn y llun yn pwyso oddeutu 2.5kg ac angen iddo ferwi am tua 2 awr 20 munud.
  2. Rhoi’r darn o gig i fewn i sosban fawr a gorchuddio gyda’r seidr, sudd afal, yna dŵr i orchuddio’r darn cig. Rhowch weddill y cynhwysion i fewn.
  3. Ei godi i’r berw a mudferwi am yr amser.
  4. Yna ei godi o’r hylif a’i oeri am tua 15 munud. Tynnu’r haen croen yn ofalus yn gadael haen o fraster arno.
  5. Gwneud patrwm gyda chyllell finiog yn y braster yn unig. Rhoi clof ym mhob sgwar/ diamwnd.
  6. Cymysgu cynhwysion y sglein a’i frwsio dros y darn cig.
  7. Ei roi yn y popty am tua 30 – 40 munud nes yn euraidd.
Share This