- Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180ºC / 160ºC ffan / Marc Nwy 4.
- Gosodwch ddwy haen o ffoil yn y tun rhostio.
- Cymysgwch y paprica, siwgr, tomatos, passata, powdr tsili ac afal. Tywalltwch y gymysgedd i’r tun; ychwanegwch y golwython a’u trochi yn y saws.
- Coginiwch am tua 45-60 munud tan fydd y cig yn frau a meddal.
- Gweinwch gyda reis cymysg wedi’i stemio, saws mwg a dail salad tymhorol.
Golwython porc wedi’u pobi mewn paprica mwg
- Amser paratoi 10 mun
- Amser coginio 45 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 4 o olwython porc lwyn heb fawr o fraster
- 2 lwy fwrdd o baprica melys myglyd
- 1 llwy fwrdd o siwgr brown ysgafn
- tun 400g o domatos wedi’u torri’n fân
- 300ml o passata
- 2 lwy de o bowdr tsili
- 1 afal coginio, wedi’i bilio a’i ddeisio