facebookPixel

Golwythion porc gyda chrwst chorizo a shibwns gan The Rare Welsh Bit

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 50 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 4 golwythen borc (tua 250g yr un)
  • 340g selsig Chorizo, wedi ei dorri’n giwbiau bach
  • 1 llwy fwrdd olew olewydd
  • 400g shibwns wedi eu torri’n sleisys tenau
  • 1 llwy fwrdd siwgr bras
  • 1 llwy fwrdd finegr
  • 1 llwy fwrdd perlysiau cymysg
  • halen môr a phupur cymysg wedi eu malu’n ffres

Dull

Fe ofynnon ni i bobl leol sy’n sgrifennu blogiau am fwyd rannu eu hoff seigiau porc gyda ni. Dyma rysait Kacie Morgans, sy’n ysgrifennu blog The Rare Welsh Bit. Mae’r golwythion hyn yn berffaith ar gyfer noson oer, aeafol; mae’r chorizo’n blasu’n fyglyd ac yn crensian ac mae’r sudd sy’n dod ohono’n blasu’n fendigedig yn y porc. Medaliwn o gig o ben asen lwyn porc yw golwyth ac mae’n sownd i’r asgwrn, sydd yn ychwanegu blas wrth goginio.



  1. Cynheswch y gril i wres canolig a chynheswch y ffwrn i 190°C / 170°C ffan / Marc Nwy 5.
  2. Ffriwch y chorizo mewn olew olewydd ar wres canolig tan ei fod yn grisp, yna tynnwch e o’r badell gyda llwy dyllog a’i osod i un ochr.
  3. Ychwanegwch y shibwns i’r badell ffrio a’u coginio am tua phum munud, gan droi’n barhaus tan eu bod wedi carameleiddio.
  4. Ychwanegwch y siwgr a’r finegr a throi am tua dwy funud tan fod y siwgr yn toddi a’r finegr yn anweddu.
  5. Ychwanegwch y perlysiau cymysg, y chorizo, yr halen a’r pupur mâl. Rhowch dro i’r cyfan a thynnwch bopeth oddi ar y gwres.
  6. Rhowch y golwythion porc ar ddysgl gwrth-wres yn y ffwrn a rhowch o dan y gril am 3-4 munud ar bob ochr.
  7. Yn ofalus, adeiladwch grwst o chorizo a shibwns ar ben y golwythion porc a rhowch y cyfan yn y ffwrn am 25-30 munud, tan fod popeth wedi coginio.
  8. Gweinwch gyda thatws newydd, llysiau gwyrdd ffres a grefi blasus.
Share This