- Cymysgwch yr olew olewydd a’r past harissa. Ychwanegwch y ciwbiau cig a’u taenu â’r gymysgedd past. Gadewch y cig i farinadu am 30 munud gan ei orchuddio a’i roi yn yr oergell.
- Rhowch y ciwbiau porc a’r pupurau ar sgiwerau pren.
- Rhowch y sgiwerau o dan gril sydd wedi’i gynhesu ymlaen llaw neu ar y barbeciw a choginiwch am tua 10-15 munud hyd nes bod y cig wedi’i goginio drwyddo ac yn frown, gan eu troi o bryd i’w gilydd.
- Gwnewch y Relish Ffrwythau’r Hydref: cynheswch yr olew mewn sosban fach, ychwanegwch y winwnsyn a’i goginio’n araf nes y bydd wedi meddalu. Ychwanegwch y cynhwysion sydd ar ôl a’u coginio am 5-10 munud arall, gan eu troi ar yr un pryd.
- Gweinwch y Cebabau Roced â thatws drwy’u crwyn, gyda darn o fenyn, llwyaid fawr o relish ffrwythau ac india corn wedi’i stemio.
Cebabau porc sbeislyd roced gyda relish ffrwythau’r hydref
- Amser paratoi 5 mun
- Amser coginio 20 mun
- Ar gyfer 2
Bydd angen
- 450g coes borc neu stêcs ysgwydd wedi’u torri’n giwbiau
- 2 llwy fwrdd olew olewydd
- 1 llwy fwrdd pâst harissa
- 4-6 o bupurau bach o liwiau cymysg heb hadau ac wedi’u torri’n ddarnau
- 1 corbwmpen fach wedi’i thorri’n ddarnau
- sgiwerau pren, wedi’u socian mewn dŵr am hanner awr
Ar gyfer relish ffrwythau’r hydref:
- 1 llwy de olew
- 1 winwnsyn coch, wedi’i blicio a’i dorri’n fân
- 1 beren, wedi’i phlicio, ei chreiddio a’i sleisio
- 2 lwy fwrdd jam ceirios coch neu jam coch tebyg
- 30ml (2 lwy fwrdd) dŵr
- 150g mwyar duon ffres neu wedi’u rhewi
- pinsiad o bowdwr tsili
- llond llaw o gyrens coch (dewisol)
Dull
Mae’r rysait hon yn gwneud 6 sgiwer.