-
Amser paratoi
15 mun
-
Amser coginio
2 awr
-
Ar gyfer
4
Bydd angen
- 450g o giwbiau o borc coch, ysgwydd neu goes
- 1 genhinen ganolig, wedi’i sleisio
- 2 ffon seleri, wedi’u sleisio
- 1 ewin garlleg, wedi’i falu
- 1 llwy fwrdd o biwrî tomato
- 1 llwy fwrdd o saws Swydd Gaerwrangon
- 300ml o sudd oren
- 1 llwy fwrdd o baprica
- 1 llwy fwrdd o fwstard Seisnig
- Cynheswch y popty ymlaen llaw i 160ºC / 140ºC ffan / Marc Nwy 3.
- Rhowch yr holl gynhwysion mewn dysgl gaserol y gellir ei rhoi yn y popty.
- Cymysgwch yn dda, gorchuddiwch a choginiwch yn y popty am 1½-2 awr nes mae’r cig yn frau.
- Gweiniwch gyda rwden, tatws a moron wedi’u stwnsio a chymysgedd o lysiau tymhorol.